Carcharu cwpwl am 'briodas ffug'
- Cyhoeddwyd

Mae gŵr a gwraig gafodd eu harestio ar ddiwrnod eu priodas yn cel eu caarcharu am geisio torri rheolau mewnfudo gyda phriodas ffug.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Elizabet Balogh, 33 oed, wedi cael ei thalu £400 o briodi Asif Hussain o Bacistan wedi i'w fisa myfyriwr ddirwyn i ben.
Cafodd y ddau eu dal pan sylweddolodd y cofrestrydd oedd yn eu priodi nad oedd y ddau yn medru siarad yr un iaith.
Cafodd Hussain o gaerdydd ei garcharu am 12 mis a Balogh am 10 mis.
Cyfieithydd
Clywodd y llys fod y ddau wedi cael eu harestio wedi i swyddogion yr Asiantaeth Ffiniau gael clywed fod y briodas yn un ffug.
Cafodd cyfnither Balogh, Valeria Farkas, hefyd ei harestio am gynllwynio i drefnu'r briodas wedi iddi weithio fel cyfieithydd i'r cwpwl.
Dywedodd yr erlynydd hywel Hughes: "Fe wnaeth y tri yma fynd ati i fod yn rhan o'r hyn yr ydym yn ei galw'n briodas ffug.
"Aeth y tri i Swyddfa Gorestru Caerdydd er mwyn cofnodi eu bwriad i briodi.
"Roedd Balogh a Hussain i fod i briodi gyda Farkas yn chwarae rôl cyfieithydd i Balogh, oedd ddim yn medru siarad Saesneg.
"Roedd hi'n amlwg i'r cofrestrydd mai ychydig iawn o gyfathrebu geiriol oedd yna rhwng y priodfab a'r briodferch.
"Roedd y cofrestrydd yn ei gweld hi'n rhyfedd eu bod am briodi mor gyflym, a bod y briodas i fod i ddigwydd dair wythnos yn ddiweddarach."
Cyfaddef
Dywedodd y cofrestrydd am ei phryderon am Balogh a Hussain wrth yr heddlu, ac fe wnaeth swyddogion o'r Asiantaeth Ffiniau a phlismyn yno wrth i'r briodas ddigwydd.
I ddechrau dywedodd Balogh wrth yr heddlu ei bod eisiau priodi Hussain: "Roedd yn achos o gariad ar yr olwg gyntaf," meddai.
Ond yn ddiweddarach fe wnaeth y tri gyfaddef i geisio torri rheolau mewnfudo.
Cytunpdd Hussain i dalu £800 i drydydd person i drefnu'r briodas, ac yna £400 i Balogh.
Fe wnaeth y barnwr Neil Bidder QC garcharu Hussain am 12 mis, Balogh am 10 mis a Farkas am 6 mis.