Agoriad swyddogol hufenfa newydd yn Hendy-gwyn ar Daf
- Cyhoeddwyd

Bydd hufenfa Proper Welsh yn Hendy-gwyn ar Daf yn cael ei hagor yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru.
Bwriad y fenter yw potelu hyd at 10 miliwn o litrau o laeth y flwyddyn gan ffermwyr lleol, a'i ddosbarthu i'w cwsmeriaid o fewn 24 awr.
Nod y busnes yw bod yn un gwyrdd hefyd.
Maen nhw'n gobeithio cyfyngu ar y pellter y mae'r llaeth yn teithio o'r fferm i'r silff o tua 360 milltir ar gyfartaledd.
Mae cwmni Proper Welsh Milk yn gweithio mewn partneriaeth â chwmni Calon Wen, cwmni cydweithredol o 25 o ffermydd yng ngogledd Cymru.
"Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o laeth yn gadael Cymru er mwyn cael ei brosesu dros y ffin yn Lloegr," meddai Richard Arnold o gwmni Proper Welsh.
"Beth sydd ei angen ar Gymru yw'r adnoddau i brosesu llaeth yma, yn hytrach na'i anfon dros y ffin ac yna yn ôl yma."
Bydd y llaeth ar gael mewn dros 50 o archfarchnadoedd ledled Cymru ac mewn siopau annibynnol.
Fe fydd Carwyn Jones yn agor yr hufenfa yn swyddogol fore Iau, Tachwedd 17.
Straeon perthnasol
- 27 Hydref 2011
- 11 Mehefin 2010
- 15 Ionawr 2010
- 28 Hydref 2009