Diffyg cysylltiad band eang cyflym yn rhwystr i gwmnïau

  • Cyhoeddwyd
Ceblau gwe LANFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Mae sawl ardal wledig efo'r ddarpariaeth band eang gwan

Mae diffyg cysylltiad band eang cyflym yng nghefn gwlad Cymru yn rhwystro cwmnïau rhag cystadlu yn ôl arweinwyr twristiaeth.

Dywed Cynghrair Twristiaeth Cymru bod ymwelwyr sy'n ymwybodol o'r dechnoleg ddiweddaraf yn disgwyl gallu gwneud archebion drwy'r we a chadw mewn cysylltiad tra ar eu taith.

Dywedodd un perchennog gwesty yn Sir Benfro ei fod wedi gwario £8,000 ar loeren band eang er mwyn darparu gwasanaeth diwifr i ymwelwyr.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae 1,700 o bobl wedi gwneud cais am gymorth gan gynllun sy'n cynnig hyd at £1,000 i helpu'r ardaloedd sy'n wynebu trafferthion.

Daw galwad yr arweinwyr twristiaeth wrth i gwmni sy'n cynnig dull newydd o dechnoleg lloeren lansio ymgyrch yng Nghymru.

Maen nhw'n dweud eu bod yn gallu cynnig atebion i'r problemau o ddiffyg cysylltiad.

Yn ôl rheoleiddwyr y diwydiant cyfathrebu, Ofcom, mae 'na arolwg sy'n nodi mai mewn rhannau sylweddol o Gymru y mae'r ddarpariaeth waetha o fand eang.

Darpariaeth wael

Yn ôl cwmni Avonline o Fryste mae eu gwasanaeth yn defnyddio lloeren bwerus dros Ewrop a gafodd ei lansio yn gynharach eleni i sicrhau gwasanaeth o 6mbps.

Mae cynllun cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth i'r rhai sydd ddim yn gallu cael mynediad i wasanaeth 2mbps.

Dywedodd Avonline eu bod yn dechrau hyrwyddo'r gwasanaeth yng Nghymru o ganlyniad i asesiad Ofcom o ddarpariaeth band eang gwae.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Roedd 12 o'r 22 awdurdod yng Nghymru wedi cael sgôr isel gan Ofcom

Mae'n dweud bod un o bob pedwar cyfeiriad yn Sir Benfro yn derbyn llai na'r cyflymder isa' sy'n cael ei argymell gan y llywodraeth.

Dywedodd Andrew Evans, perchennog gwesty yn Sir Benfro, ei fod wedi gorfod gosod system lloeren band eang - nid un gan Avonline - ar gyfer y 46 ystafell yng Ngwesty St Brides yn Saundersfoot.

"Mae nifer o gleientiaid busnes yn disgwyl hyn ac felly dwi wedi gosod system yma.

"Roedd y ddarpariaeth oedd gen i yn cael effaith ar y busnes o ran doedd pobl ddim eisiau dod yma.

"Allwn i ddim fforddio peidio â gwneud dim.

"Mae'n rhaid i mi ddarparu gwasanaeth ar gyfer y cleientiaid.

"Fe ddylem gael gwasanaeth band eang da er mwyn bod yn gystadleuol neu fe fyddwn ni'n colli allan."

Dywedodd Chris Osborne, cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru a pherchennog gwesty Fourcroft yn Ninbych-y-pysgod, bod ymwelwyr sy'n deall y dechnoleg ddiweddara yn dymuno defnyddio'r we i archebu gwyliau a threfnu eu hymweliadau.

"Rydym yn diodde' oherwydd ein lleoliad .

"Os all y gwasanaeth lloeren wneud gwahaniaeth, fe fydd yn gwella busnes lleol a chysylltiadau i drigolion y sir."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod dros 100 o geisiadau o Sir Benfro am gymorth, gan gynnwys pum cynllun cymunedol.

Dywedodd llefarydd nad ydi'r llywodraeth yn hyrwyddo nac yn cefnogi unrhyw gwmni, system neu dechnoleg unigol o fewn y cynllun.

"Mater i'r cwsmer yw pa wasanaeth band eang mae'n ddewis."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol