Heddlu'n apelio wedi lladrad arfog
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Caerdydd, sy'n apelio am dystion, yn ymchwilio i ladrad arfog mewn siop fetio.
Roedd y lladrad yn siop Coral yn Heol Albany, Y Rhath, am 7:30pm nos Fercher.
Aeth dau ddyn â chyllyll i mewn a dwyn swm o arian.
Dechreuodd ymchwiliad fforensig yr heddlu nos Fercher ynghyd ag archwilio lluniau camerâu cylch cyfyng ac mae ymholiadau o ddrws i ddrws yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Shane Ahmed: "Roedd hwn yn brofiad brawychus i'r dyn ifanc oedd yn gweithio yn y siop ar ei ben ei hun ar y pryd.
'Dychryn'
"Yn ffodus, ni chafodd ei anafu ond mae wedi dweud iddo gael ei ddychryn drwy gydol y digwyddiad.
"Rydym yn gwneud ymholiadau gyda busnesau eraill yr ardal ac yn gwylio lluniau camerâu cylch cyfyng i geisio adnabod dau ddyn oedd yn gwisgo siacedi du a sgarffiau dros eu hwynebau.
"Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda ni, yn enwedig rhywun welodd ddau ddyn yn rhedeg o'r safle neu oedd yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal."
Dylai unrhyw un all helpu'r heddlu ffonio ditectifs ar 029 2052 7420 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.