Lansio llyfr am hanes Ynys Môn yn yr Oesoedd Canol

Castell Biwmaris
Image caption Bu farw modryb y brenin Harri VI yng Nghastell Biwmaris

Nos Wener 18 Tachwedd, cynhelir lansiad arbennig ailargraffiad llyfr ar hanes Ynys Môn yn yr Oesoedd Canol, yn Oriel Ynys Môn, Llangefni.

Mae argraffiad newydd 'Medieval Anglesey' gan A. D. Carr yn cynnwys llawer o wybodaeth newydd am fywydau pobl Môn yn ystod y canol Oesoedd.

"Hanes pobl go iawn sydd yn y gyfrol hon," meddai Mr Carr.

"Mae wedi ei seilio ar waith ymchwil trylwyr dros gyfnod o flynyddoedd, ac mae'n syndod faint o hanes sydd gan ynys mor fach."

Ymhlith y ffeithiau diddorol sydd yn ymddangos yn y llyfr yw bod modryb y brenin Harri VI (1422-1461) wedi marw yng Nghastell Biwmares.

Cafodd ei charcharu am geisio defnyddio celfyddyd ddu i ladd y brenin a gwneud ei gŵr yn frenin yn ei le.

Image copyright Other
Image caption Mae awdur y llyfr hefyd yn Llywydd Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn

Ffaith arall yw bod holl drigolion cymuned fach Twrllachied ger Dulas wedi marw o'r Pla Du yn 1349.

Cafodd Medieval Anglesey ei gyhoeddi am y tro cyntaf ym 1982.

Bu'r awdur yn Athro Hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor am flynyddoedd lawer.

Ef yw Llywydd Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, sy'n dathlu'i chanmlwyddiant eleni.

"Dwi'n falch iawn gweld y llyfr yn cael ei atgyfodi a dod 'nôl i'r byd," meddai Mr Carr.

Cyhoeddir Medieval Anglesey gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Môn a chynhelir y lansiad yn Oriel Ynys Môn, Llangefni, nos Wener, Tachwedd 18 am 7.30pm.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.