Canolfan gyffuriau dan fygythiad
- Cyhoeddwyd

Mae dyfodol canolfan adferiad cyffuriau ac alcohol o dan fygythiad am nad yw digon o bobl yn cael eu cyfeirio ati.
Mae Anette Millandt Rumble, rheolwr canolfan Rhoserchan, sydd wedi ei lleoli tuag wyth milltir o Aberystwyth, yn honni nad yw digon o gleifion yn cael eu cyfeirio atynt i dderbyn triniaeth adferiad.
Mae'n bosib mai ffactor arall yw bod cleifion o Gymru yn cael eu cyfeirio at ganolfannau tebyg yn Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi talu am 91 o bobl i dderbyn triniaeth adferiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Triniaeth
Ond dim ond hanner o'r cleifion hyn gafodd eu trin yng Nghymru.
Cafodd canolfan Rhoserchan ei sefydlu ym mhentref Capel Seion ger Aberystwyth tua 25 mlynedd yn ôl.
Ond symudodd y ganolfan i'w cartref newydd ger Penrhyncoch yng Ngheredigion yn 2007 gyda chymorth £550,000 o arian Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r ganolfan yn gallu trin 22 o bobl ond dim ond wyth sy'n derbyn triniaeth yno ar hyn o bryd.
"Rwy'n credu bod llawer o bobl yn derbyn triniaeth yn y gymuned ond rwy'n meddwl fod yna ddadl iddynt dderbyn triniaeth adferiad," meddai Ms Millandt-Rumble.
"Mae llawer o bobl yn meddwl bod triniaeth adfer yn opsiwn drud ond beth yw'r gost o beidio trin rhywun sydd angen triniaeth?"
'Cyfleusterau Cymreig'
Dywedodd un o'r bobl sy'n cael eu trin yn Rhoserchan ei bod hi'n gofidio am ddyfodol Rhoserchan.
"Mae 'na lawer o bobl angen help ac fe fydd hwn yn gyfle bydd wedi ei golli pe bai Rhoserchan yn cau," meddai.
"Rydyn ni angen mwy o lefydd fel Rhoserchan."
Dywedodd person arall sy'n cael ei drin yn Rhoserchan ei fod yn ddyledus iawn i'r ganolfan.
"Roeddwn i wedi cyrraedd pen fy nhennyn a cheisio cyflawni hunanladdiad ond 12 wythnos yn ddiweddarach rwy'n teimlo'n obeithiol am y dyfodol," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn 2010-11 defnyddiodd Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yng Nghymru eu hadnoddau i brynu 91 gwely ar gyfer triniaeth.
"Roedd 50 o'r gwelyau hyn yng Nghymru gan gynnwys 19 yn Rhoserchan ac roedd y gweddill mewn canolfannau adferiad yn Lloegr.
"Mae Llywodraeth Cymru wed atgoffa byrddau iechyd ac awdurdodau lleol am y cyfleusterau Cymreig sydd ar gael.
"Ond mae gwelyau darparwyr yn Lloegr yn cael eu comisiynu pan gredir mai hyn yw'r ffordd orau o ateb gofynion yr unigolyn."
'Addas'
Dywed Cyngor Sir Gâr fod y nifer o bobl oedd angen eu hadsefydlu wedi cynyddu o 11 i 20 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Rydyn ni'n ceisio canfod y lleoliad mwyaf addas ar gyfer gofynion yr unigolyn drwy ein cynllun asesu.
"Rydyn ni'n ceisio defnyddio canolfannau Cymreig pan fo modd ond ambell waith mae'n angenrheidiol i ddefnyddio lleoliadau yn Lloegr i ateb gofynion yr unigolyn."