Boddi mewn doc: Damweiniol

Jamie Phillips Image copyright Other
Image caption Roedd cannoedd o deyrngedau i Jamie ar wefan Facebook

Mae crwner wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth drwy ddamwain yn achos llanc ifanc o ardal Llanelli.

Clywodd y cwest fod Jamie Phillips, 17 oed o Dafen, wedi mynd i Ddoc y Gogledd yn y dref ar ôl bod yn yfed yn drwm.

Roedd ganddo 166mg o alcohol ymhob 100ml o waed. Y lefel gyfreithiol i yrru car yw 80mg/100ml.

Cafodd Jamie ei weld yn mynd o dan y dŵr am 9am fore Sadwrn, Medi 3 eleni.

Bu Heddlu Dyfed Powys yn cydlynu'r chwilio gyda chymorth yr holl wasanaethau brys a badau achub lleol.

Roedd Gwylwyr y Glannau Abertawe wedi dweud eu bod wedi dod o hyd i'r corff tua 2.45pm y diwrnod hwnnw.

'Cydymdeimlad'

Roedd rhieni Jamie, ei ddwy chwaer a'i frawd yn llys y crwner ddydd Iau.

Wrth gofnodi'r rheithfarn, dywedodd y crwner Gareth Lewis: "Mae marwolaeth Jamie yn ddamwain drasig. Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad didwyll i aelodau'r teulu sydd yma heddiw."

Wedi ei farwolaeth ym mis Medi roedd mwy na 1,000 o deyrngedau i Jamie ar wefan Facebook.

Yn hanner cynta'r ganrif ddiwetha', roedd Doc y Gogledd yn rhan allweddol o ddatblygiad diwydiannol Llanelli.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r safle wedi troi'n atyniad i dwristiaid ac mae'r lleoliad yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan bobl sy'n canŵio.

Straeon perthnasol