Galw am orchymyn gwasgaru yn Stryd Siarl, Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae masnachwyr un o strydoedd mwyaf enwog Wrecsam yn honni bod eu cwsmeriaid yn cael eu poeni gan feddwon, pobl sy'n gaeth i gyffuriau a chardotwyr.
Mae rhai o'r masnachwyr wedi galw am Stryd Siarl i gael ei chynnwys fel rhan o orchymyn gwasgaru a gafodd ei gyflwyno ar gyfer strydoedd cyfagos.
Mae gorchymyn gwasgaru yn rhoi'r hawl i'r heddlu i wahardd pobl o'r strydoedd sy'n rhan o'r gorchymyn.
Dywedodd y cynghorydd sir, Keith Gregory fod pobl yn "ofni" mynd i'r stryd a bod yna beryg i fasnachwyr golli busnes.
'Grwpiau o feddwon'
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn cyd-weithio â'r masnachwyr.
Yn ddiweddar fe gafodd gorchymyn gwasgaru ei gyflwyno yn yr ardal o gwmpas Eglwys San Silyn yng nghanol y dref.
Fe fydd y gorchymyn, sy'n rhoi'r hawl i'r heddlu i wahardd pobl am ymddygiad gwrthgymdeithasol am 48 awr, mewn grym tan fis Ebrill.
Ond nid yw'r gorchymyn yn cynnwys Stryd Siarl.
Dywedodd Cynghorydd Wrecsam, Keith Gregory: "Dylai Stryd Siarl gael ei chynnwys fel rhan o'r gorchymyn gwasgaru.
"Mae 'na grwpiau o feddwon yn mynychu Stryd Siarl ac yn aros am bobl fregus.
"Maen nhw'n dechrau siarad gyda nhw ond maen nhw ar ôl eu harian.
"Mae pobl yn dweud eu bod yn rhy ofnus i fynd yno."
'Cardota'
Er bod Mr Jones am i Stryd Siarl gael ei chynnwys yn y gorchymyn gwasgaru, dywedodd nad symud pobl o un ardal i un arall oedd yr ateb ac fe alwodd am yr heddlu i roi Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
"Stryd Siarl yw stryd fwyaf deniadol Wrecsam," meddai.
"Mae'n stryd Fictorianaidd, brydferth sy'n gartref i fasnachwyr annibynnol.
"Y perygl yw gall y dref golli'r busnesau hynny."
Dywedodd Lorraine Roberts sy'n gweithio i'r cwmni gwerthwyr blodau, Flower Power, fod y problemau wedi deillio o "bobl yn cardota ac yn gofyn cwsmeriaid am arian yn ogystal ag ymddygiad meddwol."
Yn ôl John Barrow, sy'n rhedeg asiantaeth gwisgoedd Just Up Your Street fod y problemau wedi lleihau wedi i'r heddlu ymweld ag ef bythefnos yn ôl.
"Mae llawer o gardotwyr yn poeni pobl fregus," meddai.
"Mae llawer o bobl yn defnyddio safle tacsis cyfagos ac mae'r bobl hyn yn poeni menywod gan roi ei breichiau o'u hamgylch.
"Hefyd mae lot o bobl ifanc feddw yn mynychu Stryd Siarl."
Ychwanegodd Mr Barrow ei fod wedi gweld pobl yn chwydu a phiso ym mwlch drws ei fusnes a bod rhaid iddo lanhau ar eu holau yn aml.
"Rwy'n ceisio dyfalu pam nad ydyn ni'n rhan o'r ardal gorchymyn gwasgaru."
Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru yn Wrecsam, Alex Goss: "Rydym wedi bod yn cydweithio â masnachwyr yn Stryd Siarl i dargedi rhai o'r problemau fel cardota ers i'r gorchymyn gwasgaru ddod i rym."