Gwario £4m y flwyddyn ar bencadlys llywodraeth
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo o orwario ar drwsio ac adnewyddu ei phencadlys ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd.
Mae ffigyrau a gafwyd gan y Ceidwadwyr yn dangos bod costau cynnal y swyddfeydd ym Mharc Cathays yng nghanol Caerdydd tua £4m y flwyddyn.
Ond yn ôl gweinidogion, mae 2,300 staff yn gweithio yno, ac mae'r arian a wariwyd yno wedi bod o gymorth i'r diwydiant adeiladu.
Mae'r llywodraeth hefyd yn mynnu eu bod wedi lleihau allyriadau carbon 11%, yn rhannol oherwydd gwelliannau i'r ystâd.
£16m
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, bod y ffigyrau y mae ef wedi derbyn gan y llywodraeth yn dangos y bydd gwariant ar adeilad Parc Cathays yn debyg o gyrraedd £16m dros bedair blynedd.
Yn ystod y tair blynedd i fyny at 2010-11, mae gwariant ar gynnal a chadw, trwsio, adnewyddu, ac uwchraddio wedi cyrraedd mwy na £4m y flwyddyn, gyda gwariant o £3.7m wedi ei ragweld ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Dywedodd Mr Davies: "Mae 'na nifer fawr o fusnesau yng Nghymru a allai elwa o gefnogaeth ariannol, ac eto mae Llafur yn gwario llwyth o arian y trethdalwr ar swyddfeydd ei gweision sifil.
"Tra ein bod ni'n disgwyl cynnal yr adeilad, dwi'n ofni bod y costau hyn yn ormodol a gwastraffus yn yr hinsawdd bresennol."
Yn ôl y llywodraeth mae'r adeilad, hen gartref y Swyddfa Gymreig, dros ddeng mlynedd ar hugain oed a does fawr ddim wedi gwario i foderneiddio'r pencadlys yn ystod y cyfnod hwnnw.
Oherwydd hynny does dim dewis ond cael gwared ar beiriannau a gwifrau trydanol sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes economaidd.
Honnir hefyd bod angen y gwariant er mwyn peidio â pheryglu iechyd a diogelwch y staff.
£42 miliwn
Yn 2009 fe wnaeth Llywodraeth Cymru ystyried gwario £42 miliwn ar wella cyfleusterau ac ail-ddodrefni ei phencadlys.
Fe wnaeth ymchwiliad gan raglen "Dragon's Eye" y BBC ganfod bod y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, wedi datgan ei gefnogaeth mewn egwyddor i'r cynllun a baratowyd gan weision sifil, a bod £100,000 wedi cael ei wario ar lunio cynllun manwl.
Ond rhoddwyd y gorau i'r cynllun yn dilyn gwrthwynebiad y gwrthbleidiau.
Straeon perthnasol
- 5 Mawrth 2009