Gweithiwr wedi marw yn Airbus
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni Airbus wedi cadarnhau bod un o'u gweithwyr wedi marw oherwydd damwain yn eu ffatri ym Mrychdyn, Sir y Fflint.
Dywedodd y cwmni fod y ddamwain yn un o safleoedd cynnal a chadw'r ffatri nos Fercher.
Mae'r dyn wedi cael ei enwi'n lleol fel Donny Williams, 62 oed o Fwcle.
Mae ymchwiliad llawn wedi dechrau a dywedodd y cwmni eu bod yn cydweithio gyda Heddlu'r Gogledd a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.
Dywedodd rheolwr y safle ym Mrychdyn, Paul McKinlay: "Mae pawb yma ym Mrychdyn wedi eu syfrdanu a'u tristáu gan y digwyddiad trasig.
"Mae ein cydymdeimlad a'n meddyliau gyda theulu a chyfeillion y gweithiwr yn y cyfnod anodd yma."
Post mortem
Dywedodd y Ditectif Brif-Arolygydd Steve Williams o Heddlu'r Gogledd: "Gallwn gadarnhau fod dyn wedi marw mewn damwain ddiwydiannol yn ffatri Airbus ym Mrychdyn.
"Rydym yn gweithio gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch ac mae ymchwiliad ar y cyd wedi dechrau.
"Mae Crwner y Gogledd-ddwyrain wedi cael ei hysbysu."
Mae disgwyl y bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ddydd Gwener.