Ymchwiliad i sylw gwrth-hoyw honedig

Kristian Phillips Image copyright Other
Image caption Mae Kristian Phillips wedi chwarae i'r Gweilch er 2008

Mae'r Gweilch yn ymchwilio i honiad bod un o'u chwaraewyr wedi trydaru sylw gwrth-hoyw ar wefan Twitter.

Yr honiad yw bod yr asgellwr Kristian Phillips wedi trydaru sylw sarhaus ynglŷn â chystadleuydd y rhaglen deledu Big Brother, Allard-Morgan ar Dachwedd 7.

Mae gan wefan PinkNews gopi o'r sarhad honedig ac mae'r BBC wedi ei weld.

Dywedodd datganiad gan y Gweilch: "Rydyn ni'n cymryd materion fel hyn o ddifrif ac rydyn wedi dechrau ymchwiliad trylwyr ynglŷn â'r mater.

Trydar

"Fel sefydliad nid ydym yn dioddef unrhyw fath o ymddygiad gwrth-hoyw ac fe fydd unrhyw aelod o'n staff sy'n ymddwyn fel hyn yn wynebu gweithred briodol drwy ein gweithdrefnau disgyblu mewnol.

"Mae genyn ni bolisi plismona cyfryngau cymdeithasol ein hunain ac mae pob aelod o'n staff yn ymwybodol o hyn.

"Ni fyddwn yn cynnig unrhyw sylw arall ar y mater tan i'r ymchwiliad ddod i ben."

Nid dyma'r tro cyntaf i un o chwaraewyr y Gweilch fod mewn dŵr poeth am sylwadau gwrth-hoyw honedig.

Ym mis Chwefror 2010 dywedodd y dyfarnwr hoyw, Nigel Owens, mai "tynnu coes" oedd y sylwadau gwrth-hoyw honedig wnaeth y blaenwr Jonathan Thomas drydaru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.