Parc manwerthu: Anelu at 550 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Gall ehangu parc manwerthu ym Merthyr Tudful greu 550 o swyddi newydd os bydd y cynllun yn cael ei gymeradwyo, yn ôl datblygwyr.
Bydd cwmni Hammerson o Lundain yn cyflwyno'r cynllun gwerth £30m ym Mharc Manwerthu Cyfarthfa i gynghorwyr y dref y flwyddyn nesaf.
Y gobaith yw y bydd cwmnïau mawrion fel Marks and Spencer yn cael eu denu i'r safle.
Mae dogfen ddrafft y cwmni yn datgan y bydd 300 o swyddi yn cael eu creu tra bydd y parc yn cael ei adeiladu a bydd 250 o swyddi llawn amser yn cael eu creu pan fydd y parc yn agor.
Blaenau'r Cymoedd
Roedd y Cynghorydd Paul Brown yn bresennol pan gynhaliodd cwmni Hammerson gyflwyniad i'r cyngor yr wythnos diwethaf.
"Mae'r cynllun hwn wedi bod ar y gweill ers 15 mlynedd," meddai Mr Brown.
"Mae pobl Merthyr wedi bod yn aros am hyn ers hydoedd."
Os bydd y cais yn cael eu cymeradwyo gan Gyngor Merthyr gall y parc agor erbyn mis Mawrth 2014.
"Bydd man gwerthu o'r safon uchaf yn denu pobl o Ferthyr ac o ardal Blaenau'r Cymoedd," meddai Mr Brown.
Pe bai'r cais yn llwyddiannus byddai'r parc yn cael ei adeiladu ar safle siop B and Q a byddai'r siop hynny'n symud i safle llai o faint yn y dref.
Dywedodd Russell Beresford, gweithredwr datblygu Hammerson fod y cwmni'n paratoi'r cais ar hyn o bryd.
"Bydd y cais yn cynnwys ad-drefnu'r parc cyfredol i ddarparu lle ar gyfer ystod eang o fanwerthwyr," meddai.
Ychwanegodd y byddai ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu cynnal cyn y Nadolig.