Canmlwyddiant sinema ym Mhwllheli

  • Cyhoeddwyd
Neuadd DwyforFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mae Neuadd Dwyfor wedi ei defnyddio fel sinema ers 1911

Caiff y diwydiant ffilmiau Cymreig ei ddathlu mewn gŵyl arbennig.

Bu Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli yn agor ei drysau i ffyddloniaid y sgrin fawr er 1911.

Roedd yn braenaru'r tir wrth i'r ffilmiau di-sain cyntaf gydio yn nychymyg y cynulleidfaoedd.

Bellach, ar ôl gwaith adnewyddu sylweddol a welodd yr adeilad o dan orchudd o sgaffaldiau dros yr haf, mae'r hen neuadd y dref yn edrych ymlaen at ei hail ganrif, gan ddechrau efo casgliad o ffilmiau sydd yng ngofal yr Archif Sgrin a Sain Cenedlaethol yn Aberystwyth.

Mae'r rhain yn cwmpasu blynyddoedd cynnar y byd creu ffilmiau yng Nghymru, gan gynnwys ffilmiau newyddion, drama ddogfen o 1918 yn adrodd hanes bywyd y gwleidydd David Lloyd George, a nifer o rai eraill â chysylltiad agos â Llŷn ac Eifionydd.

Pathe

Fe fydd y pianydd enwog Paul Shallcross yn ychwanegu at yr awyrgylch drwy gyfeilio'n fyw i'r cynyrchiadau di-sain.

Disgrifiad,

Adroddiad Merfyn Davies

Nos Lun dangosir nifer o ffilmiau newydd o ddiddordeb lleol fydd yn cofnodi digwyddiadau fel yr awyren gyntaf i gyrraedd Pwllheli ym 1911, adroddiadau o garnifalau'r dref yn y 1920au a'r 1930au, ac ymweliad enwog Brenhines Romania â'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1925.

Dangosir hefyd uchafbwyntiau o'r ffilm The Life Story of David Lloyd George, a gynhyrchwyd ar leoliad yn yr ardal ar ôl y Rhyfel Mawr.

Hefyd bydd Y Chwarelwr o waith Syr Ifan ab Owen Edwards o 1935, bellach wedi ei hadfer yn llawn gan Gwmni Da o Gaernarfon, ynghyd â thrac sain a'r rîl olaf o ffilm a fu ar goll am flynyddoedd maith, i'w gweld.

I gloi ceir perfformiad o Jerry the Troublesome Tyke, cartwnau o'r 1920au o waith y Cymro Sid Griffiths, a gynhyrchwyd ar gyfer cwmni enwog Pathe.

Y noson ganlynol ceir dangosiad o'r ffilm fawr ei chlod Yr Etifeddiaeth, ffilm ddogfen gan John Roberts Williams a'r dihafal ffotograffydd Geoff Charles o 1949 sy'n gofnod o fwyd a diwylliant y fro yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Yn dilyn bydd rhaglen ddogfen o waith Cwmni Da yn olrhain sut y bwriwyd ati i gynhyrchu'r ffilm.

Hefyd ar y nos Fawrth bydd cyfle i weld Chwarelwr y Sêr, ffilm animeiddiedig a gynhyrchwyd gan Cinetig ar y cyd â phlant ysgol o Ddyffryn Ogwen.

Mae'n dilyn hanes John William Thomas, cyn-fwynwr o Bentir a ddilynodd ei freuddwyd i godi i swydd y Prif Arolygwr yn yr Arsyllfa Frenhinol yn Greenwich.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol