Cwpan Amlin: Dreigiau 23-13 Perpignan
- Cyhoeddwyd

Sicrhaodd y Dreigiau eu hail fuddugoliaeth yn olynol yng Nghwpan Amlin ar ôl curo Perpignan yn Rodney Parade nos Iau.
Lewis Evans ac Adam Jones gafodd geisiau'r Dreigiau yn yr hanner cyntaf, a'r Dreigiau sydd nawr ar frig grŵp 4.
Cyfrannodd Jason Tovey 13 pwynt i'r Dreigiau, gan gynnwys dwy gic adlam.
Cafodd Adrien Plante gais cysur i Perpignan, a chyfrannodd James Hook wyth pwynt ar ei ddychweliad i Gymru.
Dreigiau: M Thomas; T Chavhanga; A Hughes, A Smith (c), A Brew; J Tovey, W Evans; N Williams, L Burns, D Way, A Jones, R Sidoli, L Evans, G Thomas, T Faletau. Eilyddion: R Buckley, P Price, N Buck, S Morgan, A Coombs, J Bedford, L Robling, S Jones.
Perpignan: J Porical; A Plante; M Mermoz, G Hume, J Candelon; J Hook, F Cazenave; P Freshwater (c), C Geli, B Bourrust, O Olibeau, R Tchale Watchou, G Le Corvec, J Perez, O Tonita. Eilyddion: G Guirado, J Schuster, N Mas, G Britz, B Guiry, R Coetzee, D Mele, N Laharrague.
Dyfarnwr: Neil Paterson (Yr Alban)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2011