Barn Blatter am hiliaeth yn dychryn Ashley Williams

Ashley Williams Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraeodd Williams ei gêm gyntaf i Gymru yn erbyn Lwcsmbwrg ym mis Mawrth 2008

Mae amddiffynnwr Abertawe a Chymru, Ashley Williams, wedi disgrifio sylwadau Sepp Blatter am hiliaeth fel "chwerthinllyd".

Dywedodd pennaeth corff reoli pêl-droed y byd, FIFA, nad oedd yn credu fod problem hiliaeth ar y cae, gan awgrymu y dylid datrys unrhyw anghydfod drwy ysgwyd llaw.

Daeth nifer o alwadau ar Mr Blatter i ymddiswyddo, ac mae Williams wedi cefnogi'r condemnio cyffredinol fu i'r sylwadau.

"Rwy'n credu fod y sylwadau yn chwerthinllyd, a dydw i ddim yn gwybod beth oedd yn mynd trwy'i feddwl," meddai.

"Mae stŵr heddiw oherwydd gall pawb weld yn glir nad oes modd datrys hyn gydag ysgwyd llaw.

"Rydym yn edrych at Blatter am arweiniad, ac iddo ddweud y fath beth...dydw i ddim yn siŵr beth fydd yn digwydd o hyn ymlaen."

Camau bras

Dywedodd amddiffynnwr Cymru nad yw wedi profi unrhyw enllib hiliol yn ystod ei yrfa, ond er ei fod yn credu fod camau breision wedi eu cymryd, mae'n poeni nad yw'r mater wedi diflannu'n llwyr.

"Dros y deng mlynedd ddiwethaf, mae pobl wedi gweithio'n galed i'w atal, ac i raddau fe wnaeth," ychwanegodd.

"Ond mae ambell achos wedi codi'n ddiweddar, a chyn belled fod y broblem yn dal i fodoli, rhaid i ni weithio'n galed i gael gwared ohono."

Wedi'r bwlch am y gemau rhyngwladol, bydd Abertawe yn ôl yn chwarae yn yr Uwchgynghrair ddydd Sadwrn, gan groesawu Manchester United i Stadiwm Liberty.

Nid yw tîm Brendan Rodgers wedi colli yno'r tymor hwn, ac ond wedi ildio un gôl.

Straeon perthnasol