Dau wedi marw wedi tân mewn ffermdy yn sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae 'na ymchwiliad ar y gweill wedi tân mewn ffermdy ger Treffynnon yn Sir y Fflint yn oriau mân y bore.
Daeth cadarnhad fod dau gorff, dyn a dynes, wedi eu darganfod yn yr adeilad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r adeilad ar Fferm Gors ym mhentref Babell am 1.45am gan aelod o'r cyhoedd.
Roedd diffoddwyr o Dreffynnon, Y Fflint a Glannau Dyfrdwy wedi eu hanfon - ac uned arbennig o'r Rhyl.
Ar hyn o bryd mae'r ardal wedi ei chau.
Mae Patholegydd y Swyddfa Gartref, Brian Rogers, wedi cael ei alw i'r safle.
Yn y cyfamser, mae Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol