£375,000 i 'ddigwyddiadau mawr'

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Mileniwm Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Dyma fydd y tro cyntaf i Ganolfan y Mileniwm gynnal digwyddiad chwaraeon

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grantiau ar gyfer "pedwar digwyddiad chwaraeon a diwylliannol mawr" yn 2012.

Bydd cyfanswm o £375,000 yn cael ei rannu rhwng y pedwar digwyddiad fydd, medd y llywodraeth, yn codi proffil Cymru fel cyrchfan ar gyfer digwyddiadau o'r fath.

Mae'r digwyddiadau yn amrywio o bencampwriaeth jiwdo i ŵyl dweud straeon.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod y digwyddiadau "o safon fydeang".

1,200 o gystadleuwyr

Cymru fydd yn cynnal Pencampwriaeth Jiwdo'r Gymanwlad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn Ionawr 2012.

Mae disgwyl i'r gystadleuaeth ddenu 1,200 o gystadleuwyr o hyd at 30 o wledydd.

Dyma fydd y bencampwriaeth Gymanwlad fwyaf erioed, ac fe fydd nifer o gystadleuwyr yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Hwn fydd y digwyddiad chwaraeon cyntaf i'w gynnal yng Nghanolfan y Mileniwm.

Bydd £90,000 o arian Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r digwyddiad.

Canŵio

Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd fydd cartref Cwpan Slalom Canŵio'r Byd ym Mehefin 2012.

Dyma'r gystadleuaeth ganŵio fawr gyntaf i'w chynnal yng Nghymru ers Pencampwriaethau'r Byd yn y Bala yn 1995.

Daw £150,000 gan Lywodraeth Cymru.

Ystyr 'Kaya' yn un o ieithoedd Affrica yw 'cartref', a Stad y Faenol fydd cartref Gŵyl Kaya ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Bydd yr Ŵyl Gerddoriaeth Byd Reggae Affricanaidd gyntaf erioed yn dathlu cerddoriaeth, diwylliant a bwyd, ac yn llwyfan i ystod eang o fandiau cerddorol, yn bennaf o Jamaica, Affrica, America Ladin ac Ewrop.

Fe fydd yn elwa ar £50,000 o arian Llywodraeth Cymru.

Beyond the Border, Gŵyl Adrodd Straeon Rhyngwladol Cymru, yw gŵyl straeon fwyaf y DU, ac fe fydd yn cael ei chynnal yn Llanddunwyd ym Mro Morgannwg rhwng Mehefin 29 a Gorffennaf 1.

Bydd yn dathlu'r grefft dweud straeon, yn denu rhai o storïwyr gorau'r byd ac yn derbyn grant o £85,000 dros dair blynedd.

'Enw da'

Fe fydd Cynhadledd Ryngwladol Digwyddiadau Cymru yn cael ei chynnal ddydd Iau, Tachwedd 24, yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd, ac fe fydd y Prif Weinidog yn bresennol.

Dywedodd Mr Jones: "Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cefnogi ystod mor eang o ddigwyddiadau sy'n manteisio i'r eithaf ar ddiwylliant, traddodiad a thirlun unigryw Cymru.

""Mae Strategaeth Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru yn ein galluogi i ddatblygu portffolio o ddigwyddiadau o safon fydeang fydd yn codi ymwybyddiaeth ac enw da Cymru am greu profiadau o safon uchel i gynulleidfaoedd Cymru."