Rhybudd i Jonathan Davies

Jonathan Davies Image copyright bbc

Mae cyn faswr Cymru, Jonathan Davies, wedi cael rhybudd oddi wrth yr heddlu wedi digwyddiad y tu allan i dafarn.

Dywedodd yr heddlu fod dyn wedi cael ei arestio a'i rybuddio am ymosod wedi digwyddiad gyda dyn arall ger tafarn Yr Hancock yn y Mwmbwls, Abertawe, yn oriau mân fore Sul, Tachwedd 13.

Chwaraeodd Davies, 49 oed, i Gastell-nedd a Llanelli rhwng 1985 a 1997 ac ennill 37 o gapiau i Gymru.

Aeth i chwarae rygbi 13 gyda Widnes a Warrington, gan gynrychioli Cymru a Phrydain yn y gamp cyn dychwelyd i rygbi'r undeb a chwarae i Gaerdydd.

Bellach mae'n sylwebydd rygbi gyda'r BBC ac wedi cyflwyno cyfres 'Jonathan' ar S4C.

Dywedodd BBC Cymru: "Nid ydym yn gwneud sylwadau am faterion personol."