Gêm Manchester United yn hwb i ddinas Abertawe
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Pencampwyr yr Uwch Gynghrair yn ymweld ag Abertawe ddydd Sadwrn.
Bydd y gic gyntaf rhwng Abertawe a Manchester United am 5.30pm yn Stadiwm Liberty.
Mae'n bosib mai dyma gêm fwya'r tymor i'r tîm cartref.
Dywedodd Cyngor Abertawe eu bod yn gweld hyn fel cyfle gwych i werthu a hyrwyddo'r ddinas.
Fe fydd y gêm yn cael ei darlledu i 580,000 o gartrefi mewn 211 o wledydd.
O bosib dyma fydd y cyfle cyntaf i nifer fawr o'r bobl glywed am Abertawe.
Fe fydd 'na 2,000 o gefnogwyr United yn y Stadiwm ond mae disgwyl llawer iawn mwy yn y ddinas.
Fel arfer mae tîm mawr fel Manchester United, Arsenal, Lerpwl a Chelsea yn golygu bod rhyw 8,000 o gefnogwyr yn mynd i gemau oddi cartref.
Achlysur
Mae busnesau yn y ddinas eisoes yn dweud bod 'na hwb ariannol o ganlyniad i'r pêl-droed.
"Ar gyfer pob gêm cartref mae 'na nifer fawr o ymwelwyr yn dod i'r ddinas," meddai Iwan Davies, Pennaeth Hamdden a Thwristiaid y Ddinas.
"Fel cyngor fe wnaethon ni benderfynu ar ddechrau'r tymor i gydweithio efo gwestai lleol i gynnig pecynnau i hyrwyddo cynigion llety a bod pobl yn gwneud penwythnos o'r achlysur yma, nid dod ar gyfer y gêm yn unig.
"Mae'n gyfle iddyn nhw weld be mwy sydd gan y ddinas i'w gynnig."
Dywed y cyngor nad ydyn nhw'n defnyddio gwestai, bwytai a thafarndai yn unig.
Yn ôl tystiolaeth mae ymwelwyr yn aros am y penwythnos ac yn ymweld ag atyniadau yn yr ardal.
"Ar hyn o bryd mae'n ymddangos fod busnesau lleol yn elwa," meddai Mr Davies.
"Mae'r gwestai fynycha wedi gweld cynnydd sylweddol yn y rhai sy'n dod i aros, y tafarndai a llefydd bwyta' hefyd yn gweld cynnydd sylweddol.
"Hyd yn hyn mae pethau yn arbennig o dda."
Dywedodd Mr Davies eu bod yn comisiynu astudiaeth yn ystod y tymor o effaith economaidd ar yr hyn sy'n digwydd yn y ddinas ac edrych yn fanwl faint o hwb ydi bod yn yr Uwchgynghrair.
"Er bod 'na ddirwasgiad dydan ni ddim wedi gweld llawer o effaith o hynny yng nghanol y ddinas," ychwanegodd Mr Davies.
"Mae 'na fwrlwm mawr yn y ddinas a phawb ar bigau.
"Dros y penwythnos hefyd fe fydd atyniad Winter Wonderland yn agor yn y ddinas a bwrlwm y siopa' Nadolig.
"Rydym yn annog pobl i ddod o bob cwr o'r byd i'r ddinas," ychwanegodd.
Mae 'na adran arbennig o wefan Ymweld â Bae Abertawe ar gyfer cefnogwyr pêl-droed sy'n cynnig gwybodaeth am yr hyn sydd i'w gael yn y ddinas.
Dod yn ôl
Dywed y cyngor bod 'na gynnydd yn y nifer sydd wedi bod ar y wefan ers dechrau'r tymor.
"Rydym yn disgwyl bod 40-50 o'n hystafelloedd yn mynd i gefnogwyr pêl-droed y tîm arall," meddai Ryan Peters, Rheolwr Premier Inn Y Glannau, Abertawe.
"Mae nifer fawr o bobl o Fanceinion wedi archebu lle efo ni dros y penwythnos yma.
"Ychydig iawn o gefnogwyr y timau sydd wedi bod yn Abertawe o'r blaen.
"Yn sicr y pêl-droed sydd yn eu denu nhw yma ond maen nhw wedi eu plesio â'r ddinas.
"Mae nifer wedi archebu i ddod yn ôl yn y dyfodol pan nad yw'n achlysur pêl-droed."
Ychwanegodd bod y traethau a'r marina wedi creu dipyn o argraff arnyn nhw.
"Os ydan ni yn gwneud yn dda, felly hefyd y gwestai eraill, mae'n newyddion gwych i'r ddinas."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2011
- Cyhoeddwyd15 Awst 2011