Eisteddfod Ffermwyr Ifanc yn Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Huw Smallwood o gwmni Tegni a Iolo Puw, gwneuthurwr y GadairFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y Gadair ei gwneud eleni gan Iolo Puw

Cynhelir Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2011 ym Mhafiliwn Y Rhyl ar ddydd Sadwrn 19 Tachwedd.

Ffederasiwn Clwyd o'r mudiad sy'n gyfrifol am yr ŵyl eleni a disgwylir dros 700 o aelodau rhwng 10 a 26 oed fynychu'r digwyddiad.

Eleni cafodd y gadair ei gwneud gan Iolo Puw o'r Parc ger y Bala a bydd yn cael ei wobrwyo am yr ymgais orau yng nghystadlaethau'r stori fer a cherdd.

Mae Cyngor Sir Dinbych yn noddi'r Eisteddfod ac mae Cwmni Tegni, cwmni ynni adnewyddol, yn noddi'r gadair a'r gwobrau.

"Rwy'n edrych ymlaen at groesawu aelodau o bob cwr o Gymru i Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru," meddai Heledd Owen, Cadeirydd Pwyllgor yr Eisteddfod.

Roedd yr Eisteddfod yn dechrau am 10.30am.

Mae modd dilyn y cystadlu ar y we ac fe fydd 'na raglen arbennig ar BBC Radio Cymru o 7:30pm yng nghwmni Geraint Lloyd o Bafiliwn Y Rhyl.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol