Pwll glo: Dyn yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd

Cafodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i lofa Aberpergwm yng Nghwm Nedd wedi i ddyn fynd yn gaeth dan ddaear.
Dywedodd y lolfa fod y ddamwain wedi digwydd tua 9.30am fore Gwener.
Cafodd y gweithiwr ei daro wrth iddo geisio atgyfnerthu rhan o do'r lofa.
Aed ag ef mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys a'r gred yw ei fod wedi torri ei goes.
Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans fod yr anafiadau yn rhai difrifol ond nad oedd ei fywyd mewn perygl.
Damwain
Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch eu bod wedi cael gwybod ac y byddai arolygydd yn ymweld â'r safle ddydd Sadwrn.
"Mae ein hymholiadau ni'n rhai cychwynnol."
Dechrau'r mis cafodd tri o lowyr eu cludo i'r ysbyty wedi damwain yn yr un pwll yn Aberpergwm.
Roedd cwymp ryw dair neu bedair milltir o dan ddaear ac fe gafodd y dynion eu tynnu o'r pwll wrth ddefnyddio lifft arbennig.
Cafodd un o'r dynion anaf i'w gefn ac roedd y ddau arall yn diodde' o sioc.
Mae dros 230 o bobl yn gweithio yn y pwll.
Ym mis Medi bu farw tri o ddynion wedi damwain ym mhwll Y Gleision ger Pontardawe.
Straeon perthnasol
- 3 Tachwedd 2011
- 14 Hydref 2011
- 27 Medi 2011
- 16 Medi 2011
- 15 Medi 2011