Gwobrwyo Cymry ifanc talentog

  • Cyhoeddwyd
Amgueddfa Genedlaethol CaerdyddFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y seremoni ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cafodd seremoni yn cydnabod gweithgarwch pobl ifanc yng Nghymru ei chynnal ddydd Sadwrn.

Mae CLIC, y gwasanaeth gwybodaeth a chyngor cenedlaethol i bobl ifanc rhwng 11 oed a 25 oed yng Nghymru, yn cynnal eu seremoni gwobrwyo genedlaethol cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Bwriad y gwobrau yw cydnabod ymdrechion y bobl ifanc sydd wedi cyflwyno cynnwys golygyddol i Gydweithfa CLIC sy'n cynnwys un gwefan cenedlaethol a 9 gwefan lleol.

Roedd dros 200 o bobl broffesiynol ym maes ieuenctid a phobl ifanc dros Gymru yn y digwyddiad.

'Sgiliau amlgyfryngau'

Y gwestai arbennig oedd Dirprwy Weinidog Sgiliau Cymru, Jeff Cuthbert, a fu'n cyflwyno araith fer ac yn cyflwyno'r Wobr am CLICiwr y Flwyddyn.

"Mae'r gwobrau hyn yn dathlu'r gwaith gwych sydd yn cael ei wneud gan y bobl ifanc sydd yn cyfrannu at y prosiect CLIC," meddai Mr Cuthbert.

"Mae CLIC yn caniatáu i bobl ifanc dros Gymru fynegi eu hunain yn greadigol, magu hyder a datblygu sgiliau amlgyfryngau a golygyddol newydd.

"Mae straeon y rhai sydd wedi ei henwebu eleni yn gwbl ysbrydoledig ac rwyf yn gobeithio byddan nhw'n annog hyd yn oed mwy o bobl ifanc i gymryd rhan gyda'i gwefan CLIC lleol."

Cafodd naw gwobr eu cyflwyno, gan gynnwys yr erthygl fwyaf doniol; ffotograffydd y flwyddyn; erthygl fwyaf defnyddiol; newydd-ddyfodiad gorau; erthygl greadigol orau a CLICiwr y flwyddyn.

Yn ogystal â'r wefan genedlaethol, CLIC, mae hefyd 10 gwefan lleol CLIC sydd wedi cael ei datblygu, 6 yn cael eu datblygu a 3 all ymuno'n fuan.

Gyda'i gilydd, mae'r gwefannau byw yma yn denu mwy nag 25,000 o ymweliadau unigryw bob mis gan bobl ifanc dros Gymru ac mae'r ystadegau hyn yn codi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol