E.coli: Dau achos newydd yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion iechyd yn ymchwilio i ddau achos o E.coli 0157 yng Ngwynedd.
Mae plentyn sy'n mynychu meithrinfa ym Mangor â'r cyflwr, a chafwyd cadarnhad fod oedolyn sydd â chysylltiadau posib a'r feithrinfa hefyd wedi ei heintio.
Deellir bod profion yn cael eu cynnal ar bedwar person arall.
Mae meithrinaf Tir na n-Og wedi ei chau ac mae profion yn cael eu cynnig i blant sy'n mynychu'r feithrinfa.
'Profion'
Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai rhieni gasglu samplau ar ôl i'w plant fynd i'r tŷ bach mor fuan ag sy'n bosib.
"Rydym hefyd yn ymchwilio i gysylltiadau posib gyda'r achos o E.coli 0157 yn Amlwch, Ynys Môn, ym mis Hydref," meddai Dr Chris Whiteside, ymgynghorydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
"Fe fydd hi'n beth amser cyn y bydd canlyniadau profion ar gael," meddai.
Ni fydd yr un plentyn nac aelod o staff yn cael mynychu'r feithrinfa oni bai eu bod wedi cael dau brawf negyddol am E.coli 0157.
Bydd yn rhaid bod 48 awr rhwng y ddau brawf.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, gall y salwch amrywio o ddolur rhydd ysgafn i ddolur rhydd gwaedlyd, gyda chrampiau difrifol posib yn y stumog.
Mae'n effeithio'n benodol ar blant ifanc ac ar bobl oedrannus ac, mewn nifer fach o achosion, gall fod yn angheuol.
Mae mesurau rheoli digonol ac arferion hylendid da yn bwysig i atal heintiau gan E.coli O157, ac mae'r rhain yn cynnwys:
Golchi dwylo'n drylwyr cyn bwyta neu baratoi bwyd, ar ôl defnyddio'r toiled, ar ôl newid cewynnau neu lanhau ar ôl pobl eraill sy'n dioddef dolur rhydd.
Dylai unrhyw un â phryderon gysylltu â'u meddyg teulu neu ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth Iechyd ar 0845 46 47.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd26 Awst 2011
- Cyhoeddwyd30 Medi 2011