Arweinwyr yn ymrafael
- Cyhoeddwyd

Mae'r frwydr wleidyddol dros gyflwr yr economi rhwng llywodraeth glymblaid Prydain a'r blaid Lafur wedi dod i Gymru.
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi bod ar ymweliad â chanolfan ail-gylchu yng Nghaerdydd sydd yn hyfforddi'r di-waith, tra bod arweinydd y blaid Lafur Ed Miliband wedi bod yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont.
Yn ystod ei ymweliad, dwedodd Mr Miliband fod gallu'r Llywodraeth yng Nghaerdydd i weithredu wedi'i gyfyngu i raddau helaeth gan y Llywodraeth yn Whitehall.
Ond yn ôl Nick Clegg, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy er mwyn cynyddu'r cyfleoedd i bobl ifanc sicrhau swyddi.
Daeth hyn oll yn sgil cyhoeddiadau am gynnydd mewn diweithdra yng Nghymru, a rhagolwg gan Fanc Lloegr na fydd yr economi'n tyfu mor gyflym â'r disgwyl.
Mae'r llywodraethau yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd wedi cael eu beirniadu'n hallt gan eu gwrthwynebwyr am fethu gwneud digon i adfer yr economi.
Tystiolaeth
Yn ôl ffigyrau swyddogol ddydd Mercher, mae lefelau diweithdra wedi cyrraedd uchafbwynt ers i'r ffigyrau ddechrau cael eu casglu yn y dull yma yn 1992.
Dwedodd Mervyn King, Llywodraethwr Banc Lloegr yn ystod yr wythnos bod sefyllfa'r economi ar draws Prydain wedi gwanhau, ac y gallai unrhyw dwf ddod i ben yn ystod y flwyddyn nesa.
Dwedodd Ed Miliband heddiw bod cynnydd yn y dystiolaeth sy'n awgrymu nad yw polisïau economaidd llywodraeth Prydain yn gweithio, a bod angen i'r Canghellor George Osborne ail-ystyried y toriadau mewn gwariant cyhoeddus.
Dwedodd ar y llaw arall ei fod yn gefnogol i bolisïau'r llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd - er enghraifft trwy greu 4,000 o swyddi hyfforddiant i bobl ifanc.
Yn ôl Mr Miliband, mae Llywodraeth Carwyn Jones yn wynebu rhwystrau sylweddol sydd wedi'u gosod gan lywodraeth glymblaid David Cameron a Nick Clegg - llywodraeth "sy'n gwneud pob math o benderfyniadau am ein heconomi sydd yn benderfyniadau anghywir."
Wrth ymateb i gwestiynau am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru mynnodd Mr Miliband mai penderfyniad i Carwyn Jones a'i Gabinet fyddai unrhyw gyfaddawd gyda Plaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond ei fod yn hyderus byddai'r penderfyniad hwnnw yng ngwir ddiddordeb pobl Cymru.
Yn ôl Nick Clegg, mae yna gynnydd wedi bod yn y nifer o gyfleoedd i hyfforddi pobl ifanc, ond bod angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy, yn ogystal â'r angen am fwy o weithredu ar lefel Llywodraeth Prydain.
Cymunedau
Dywedodd hefyd y gallai Kirsty Williams a'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig fathu cytundeb ar y gyllideb gyda'r blaid Lafur - ond dim ond os oedd y telerau a'r blaenoriaethau'n iawn.
Wrth ymateb i sylwadau Ed Miliband, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru, "unwaith eto mae pobl o fewn y blaid Lafur yn defnyddio'r argyfwng economaidd er mwyn ymosod ar bleidiau gwleidyddol eraill."
"Dros chwe mis dwetha, mae'r pŵer wedi bod gan Llywodraeth Lafur Cymru i gymryd camau er mwyn helpu pobl, busnesau a chymunedau - ond dyw nhw ddim wedi gwneud unrhyw beth."
Ac yn ôl Nick Ramsay, llefarydd Ceidwadwyr Cymru ar fusnes a'r economi, "Mae'r blaid Lafur yn trio rhoi'r bai ar eraill am eu methiant nhw i reoli'r economi Gymreig ers datganoli."
"Mae Gweinidogion Cymru wedi methu gweithredu eu pwerau er mwyn helpu busnesau bach, creu swyddi neu denu buddsoddiad."