Dymchwel 240 o fflatiau ar y gweill
- Cyhoeddwyd

Mae mwy o fanylion wedi dod i'r amlwg am gynlluniau i ddymchwel 240 o fflatiau fel rhan o gynllun gwerth miliynau o bunnoedd i adfer canol dref y Fflint.
Gallai dymchwel y fflatiau arwain at godi tai, siopau a mannau hamdden newydd ar yr un safle.
Dywedodd rheolwr tai Cyngor Sir Y Fflint, Clare Budden, fod tenantiaid wedi eu hysbysu y bydd y fflatiau yn cael eu dymchwel.
Ychwanegodd fod y cynlluniau yn rhai "gwefreiddiol allai drawsnewid Y Fflint".
Cymeradwyo
Mae ymgynghorwyr wedi bod yn gweithio ar "uwchgynllun" ar gyfer y dref.
Bu ymgynghoriad ynglŷn â'r cynllun gyda phreswylwyr y fflatiau yn gynharach eleni.
Fe fydd canlyniadau eu hadborth yn cael eu cyflwyno i gynghorwyr yn ddiweddarach y mis hwn.
Bydd yn rhaid i gynghorwyr gymeradwyo'r cynllun cyn i'r datblygiad cael ei wireddu.
Ond mae cynghorydd sir, Alex Aldridge, yn obeithiol y bydd y cyngor yn cymeradwyo'r cynllun.
Dywedodd fod y fflatiau wedi cyfyngu unrhyw ddatblygiad o'r dref yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae rhan o'r cynllun yn cynnwys gwerthu darn o dir sy'n eiddo i'r cyngor i dalu am ran arall o'r cynllun i greu tai cymdeithasol a chyfleusterau cymunedol eraill.
"Gallai'r cynllun fod o fudd mawr i'r dref a denu buddosoddiadau newydd," meddai Mrs Budden.
Ond ni fydd pawb yn hapus i weld y fflatiau'n cael eu dymchwel.
"Mae rhai o'r tenantiaid wedi byw yno am 40 mlynedd ac maen nhw'n oedrannus ac yn anfodlon i symud o'u cartrefi," ychwanegodd.
"Ond nid yw'r tai yn addas ar gyfer y 21ain Ganrif ac mae'n hen bryd am newid radical."
Yn y cyfamser mae'r 7,500 o denantiaid Cyngor Sir y Fflint yn rhan o ymgynghoriad ynghylch y posibilrwydd o newid perchnogaeth eu cartrefi i landlord cymdeithasol.