Bangor ar y brig

  • Cyhoeddwyd
Uwchgyngrhair CymruFfynhonnell y llun, Not Specified

Mae Bangor wedi codi i frig Uwchgynghrair Cymru gyda Llanelli yn codi uwchben y Seintiau Newydd wedi penwythnos o gemau yn Uwchgynghrair Cymru.

Dydd Sul roedd Llanelli yn croesawu'r Bala i Barc Stebonheath.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 28 munud gyda Rhys Griffiths yn sgorio, cyn i Craig Williams sgorio ar ôl 39 munud.

Aeth y tîm cartref ymhellach ar y blaen yn yr ail hanner gyda gôl gan Antonio Corbisiero wedi 77 munud.

Doedd 'na ddim cyfle i'r ymwelwyr ddod yn ôl er bod Chris Mason wedi cael gôl gysur iddyn nhw bum munud cyn diwedd y gêm.

Mae Llanelli yn uwch na'r Seintiau yn y tabl ar wahaniaeth goliau.

Cyfforddus

Yn y gêm arall gafodd ei chwarae ddydd Sul fe wnaeth Castell-nedd ennill adref yn erbyn Y Drenewydd o 5-0.

Cafodd Kristian O'Leary fuddugoliaeth gyfforddus yn ei gêm gyntaf fel rheolwr dros dro Castell-nedd.

Kerry Morgan agorodd y sgorio wedi 16 munud cyn cael yr olaf hefyd chwarter awr cyn diwedd y gêm.

Chris Jones (35 munud); Ian Hillier (45 munud) a Craig Hughes (57 munud) gafodd y goliau eraill.

Mae'r Drenewydd yn dal yn ail o waelod y tabl.

Ail hanner

Cafodd Bangor fuddugoliaeth o bedair gôl i ddim yn erbyn Caerfyrddin ddydd Sadwrn.

Daeth y pedair gôl yn yr ail hanner ar Ffordd Farrar.

Llwyddodd Les Davies i ganfod cefn y rhwyd wedi 60 munud cyn i Mark Smyth sgorio dri munud yn ddiweddarach.

Cafodd Neil Thomas gôl wedi 78 munud cyn i Kyle Wilson ganfod y rhwyd pum munud cyn diwedd y gêm.

Dydi Caerfyrddin ddim wedi ennill ar Ffordd Farrar ers mis Ionawr 2007.

Drama

Roedd 'na ddiweddglo dramatig i'r gêm rhwng Prestatyn a Phort Talbot.

Ross Stephens gafodd gôl gyntaf y tîm cartref wedi 21 munud.

Saith munud cyn diwedd yr amser arferol o 90 munud fe wnaeth Chris Hartland ddod a'r gêm yn gyfartal.

Pedwar munud i mewn i'r amser a ganiateir am anafiadau fe lwyddodd Stephens gyda chic o'r smotyn.

Ond roedd hi'n benderfyniad dadleuol wedi i'r tîm cartref ennill cic o'r smotyn wedi i Paul Cochlin droseddu ar Paul O'Neill.

Fe wnaeth Bartek Fogler arbed ergyd Neil Gibson yn wych ond fe wnaeth y dyfarfnwr Mark Petch ganiatau i'r gic gael ei hail gymryd.

Wnaeth Stephens ddim byd o'i le ac fe wnaeth y bêl ganfod cefn y rhwyd.

Roedd Gareth Phillips wedi cael cerdyn coch wedi 57 munud a welodd yr ymwelwyr i lawr i 10 dyn.

Seintiau'n colli

Nos Wener roedd 'na fuddugoliaeth annisgwyl i Lido Afan yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Cafodd y Seintiau Newydd y dechrau gorau posib pan sgoriodd Draper ym munud cynta'r gêm ond fe ddaeth Lido Afan yn gyfartal wedi 18 munud pan rwydodd Payne.

Sgoriodd Hood i'r tîm cartref pedwar munud cyn yr egwyl a seliodd Payne y fuddugoliaeth i Lido Afan pan sgoriodd ei ail gôl ar ôl 57 munud.

Collodd Aberystwyth gartref yn erbyn Airbus nos Wener er i'r tîm cartref sgorio gôl gynta'r gêm dau funud cyn yr egwyl.

Llwyddodd Hope i ddod ag Airbus yn gyfartal pum munud wedi'r egwyl pan sgoriodd Hope ac enillodd Worton yr ornest i'r ymwelwyr pan rwydodd ar ôl 79 munud.

Canlyniadau

Nos Wener

Aberystwyth 1-2 Airbus

Lido Afan 3-1 Seintiau Newydd

Dydd Sadwrn

Bangor 4-0 Caerfyrddin

Prestatyn 2-1 Port Talbot

Dydd Sul

Llanelli 3-1 Bala

Castell-nedd 5-0 Y Drenewydd

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports:

Ar ôl gemau Dydd Sadwrn Tachwedd 19 2011.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol