Afghanistan: Dau filwr wedi'u lladd
- Cyhoeddwyd

Cafodd y ddau filwr eu lladd yn nhalaith Helmand
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi enwau dau filwr fu farw pan drawyd eu cerbyd gan ffrwydrad yn Afghanistan.
Roedd is-gapten David Boyce ac is-gorporal Richard Scanlon yn aelodau o Warchodlu Dragwniaid y Frenhines yn nhalaith Helmand.
Erbyn hyn mae 388 o aelodau Lluoedd Arfog Prydain wedi eu lladd yn Afghanistan er 2001.
Cafodd is-gapten Boyce, 25 oed, o Welwyn Garden City o Swydd Hertford ac is-gorporal Scanlon, 31 oed o Rymni, Gwent eu lladd yn ardal Yakchal o Nahr-e Saraj yn nhalaith Heland.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2011