Achub dyn o afon yng nghefn tafarn

  • Cyhoeddwyd

Mae timau achub wedi tynnu dyn o afon yng nghefn tafarn ym Mhontypridd nos Wener.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r safle y tu ôl i dafarn Y Tymbl Inn toc wedi 11.17pm ar ôl adroddiadau gan yr heddlu bod dyn yn y dŵr wedi iddo syrthio 30 troedfedd.

Cafodd ei achub gan y criwiau ddefnyddiodd gwch i'w achub.

Derbyniodd driniaeth gan barafeddygon.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân eu bod yn credu i'r dyn dderbyn anafiadau i'w gefn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol