Gêm gyfartal i'r Gweilch

Richard Fussell yn ymosod ar ran Y Gweilch yn erbyn Treviso Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Richard Fussell yn ymosod ar ran Y Gweilch yn erbyn Treviso

Maswr ifanc y Gweilch wnaeth achub y dydd i'r rhanbarth gyda chic gosb yn y funud olaf i ddod a nhw yn gyfartal yn erbyn Treviso yng Nghwpan Heineken.

Dyma ymddangosiad cyntaf Matthew Morgan, 19 oed, yn y gystadleuaeth wedi iddo ddod ymlaen fel eilydd ychydig funudau yn gynharach.

Roedd yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen o bwynt ar yr hanner.

Ond daeth y tîm cartref yn ôl gyda thri chais yn yr ail hanner i Michele Rizzo, Benjamin da Jager a Tobias Botes.

Sgoriodd Kristopher Burton 11 pwynt i'r tîm cartref.

Cerdyn melyn

Cafodd Tommy Bowe a Ryan Jones geisiadau i'r Gweilch ac fe sgoriodd Dan Biggar 13 pwynt cyn i Morgan ychwanegu tri phwynt.

Cafodd y Gweilch eu gorfodi i wneud newid hwyr wedi i Adam Jones gael ei orfodi oddi ar y cae gydag anaf i'w goes.

Doedd gan yr ymwelwyr ddim Alun Wyn-Jones a Huw Bennett.

Llai na 30 munud cyn diwedd y gêm roedd y tîm cartref i lawr i 14 dyn wedi i Tommaso Benvenuti dderbyn cerdyn melyn am dacl peryglus ar Shane Williams.

Er gwaetha' mantais o ran nifer y chwaraewyr methu wnaeth y Gweilch a mynd ar y blaen.

Fe wnaeth clo'r tîm cartref Cornelius van Zyl ei 100fed ymddangos.

Grwp 5 Gemau Ennill Cyfartal Colli Bonws Pwynt
Saracens 2 1 0 1 2 6
Y Gweilch 2 1 1 0 0 6
Biarritz 2 1 0 1 1 5
Treviso 2 0 1 1 0 2