Dau yn aros fel hyfforddwyr Y Gleision tan ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd
Justin Burnell a Gareth BaberFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Justin Burnell a Gareth Baber yn rhan o dîm hyfforddiad Dai Young

Mae rhanbarth Y Gleision wedi cyhoeddi y bydd Gareth Baber a Justin Burnell yn parhau fel hyfforddwyr tan ddiwedd y tymor.

Daeth cyhoeddiad Cadeirydd Y Gleision Peter Thomas wedi buddugoliaeth o 24 0 18 yn erbyn Gwyddelod Llundain nos Wener yng Nghwpan Heineken.

Dyma oedd ail fuddugoliaeth y tîm yn y grŵp.

Baber a Burnell sydd wedi bod yn gyfrifol am Y Gleision wedi ymadawiad Dai Young.

"Rydym yn hapus iawn gyda Justin Burnell a Gareth Baber," meddai Mr Thomas.

"Fe fyddwn ni'n eu cefnogi 100% am weddill y tymor."

Ar ôl curo'r Gwyddelod yn Llundain mae'r Gleision yn edrych ymlaen at ddwy gêm yn erbyn Caeredin sy'n debygol o benderfynu tynged y grŵp.

Fe fydd mwy o fanylion gan Y Gleision yn ystod yr wythnos.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol