Wrecsam yn dal ar y brig

  • Cyhoeddwyd
Wrecsam a ChasnewyddFfynhonnell y llun, bbc

Wrecsam 2-0 Lincoln

Grimsby 2-2 Casnewydd

Mae Wrecsam yn dal i arwain Uwchgynghrair Blue Square ar ôl i Mattias Pogba sgorio dwy gôl yn erbyn Lincoln.

Mae 'na chwe gêm bellach ers i'r Dreigiau ildio gôl gynghrair.

Daeth y gôl gynta' wedi 11 munud cyn iddo gael cic o'r smotyn yn yr ail hanner.

Cafodd Wrecsam y gic o'r smotyn pan gafodd ergyd Andy Morell ei lawio gan John Nutter.

Aeth gôl geidwad Reading, Paul Farman i'r cyfeiriad anghywir wrth i'r bêl ganfod cefn y rhwyd.

Methodd Lincoln â thrafferthu ceidwad Wrecsam, Joslain Mayebi.

Arweinaid Morell

Dyma oedd ail fuddugoliaeth Wrecsam dros Lincoln yn y gynghrair.

Mae Wrecsam nawr wedi ennill wyth o'u 12 gêm o dan arweiniad eu chwaraewr-reolwr, Morell.

Mae'r fuddugoliaeth yn ddigon i roi Wrecsam ar frig y tabl, tri phwynt yn glir o Fleetwood.

Roedd Casnewydd ar y blaen ar yr hanner o ddwy gôl i ddim.

Ond daeth y tîm cartref yn ôl wedi'r egwyl i sicrhau gêm gyfartal.

Rhoddodd beniad Wayne Hatswell y fantais i Gasnewydd yn y funud agoriadol cyn i Nat Jarvis ymestyn y fantais.

Doedd Grimsby ddim wedi achosi pryder i geidwad Casnewydd Danny Potter tan 79 munud pan gafodd Serge Makofo gôl.

Ac fe ddaeth eu hail dri munud yn ddiweddarach wrth i Anthony Elding lwyddo gyda chic o'r smotyn ar ôl i Andrew Hughes lawio'r bêl.

Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet