Marwolaeth mewn bwyty yn Ninbych 'ddim yn anesboniadwy'

  • Cyhoeddwyd
Bwyty Asia
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr heddlu eu galw i fwyty Asia yn Ninbych

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau nad ydyn nhw bellach yn trin marwolaeth dyn mewn bwyty fel un anesboniadwy.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ddydd Sadwrn ar y dyn 47 oed.

Cafodd y corff ei ganfod ym mwyty Indiadidd 'Asia' yn Ninbych dros nos nos Iau bore Gwener Tachwedd 17-18.

Roedd yr heddlu yn trin ei farwolaeth fel un anesboniadwy i ddechrau.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw ffonio'r heddlu ar 0845 607 1001 neu 101 yng Nghymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol