Dyn wedi marw wedi i gar ei daro yn Llangefni

Mae nifer o ddynion yn cael eu holi gan Heddlu Gogledd Cymru ar ôl marwolaeth dyn 22 oed yn Llangefni nos Sadwrn.

Cafodd y dyn ei daro gan gerbyd wrth iddo gerdded ar hyd Ffordd Glanhwfa.

Digwyddodd hyn toc wedi hanner nos.

Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.

Os wnaeth unrhyw un weld be ddigwyddodd neu a welodd car Vauxhall Corsa coch neu arian yn gyrru yn Llangefni yn hwyr nos Sadwrn fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.