Charles yn noddwr Prifysgol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Medwin Hughes yn cyflwyno llyfr i Dywysog CymruFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd Tywysog Cymru yn noddwr Brenhinol sefydliad addysg uwch diweddara Cymru

Daeth cadarnhad mai Tywysog Cymru fydd noddwr Brenhinol sefydliad addysg uwch diweddara Cymru.

Mae cyrff llywodraethol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant; Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru wedi penderfynu uno.

Mae'n dwyn ynghyd y ddwy Siarter Frenhinol hynaf a roddwyd i brifysgolion yng Nghymru.

Roedd y Tywysog Charles yn Ganghellor Prifysgol Cymru.

Mae Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru wedi cytuno i fod yn Noddwr Brenhinol i'r Brifysgol newydd a grëir yn sgil yr uno.

'Anrhydedd'

"Rwyf wrth fy modd y bydd Tywysog Cymru yn llywyddu dros Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant fel ei Noddwr Brenhinol," meddai'r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor.

"Mae cael ei gefnogaeth yn anrhydedd ac yn fraint."

Bydd y sefydliad unedig yn cael ei uno dan Siarter Frenhinol 1828 Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.

Mae hwn yn benderfyniad hanesyddol ac mae'n cynnig cyfle i'r Brifysgol ar ei newydd wedd barhau i wasanaethu addysg uwch o fewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol ill dau.

Y disgwyl yw y bydd y tri sefydliad wedi uno erbyn 1 Awst 2012.

"Ar yr adeg hanesyddol hon i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae Cyngor y Brifysgol yn cydnabod yr ymrwymiad mae Tywysog Cymru wedi'i wneud wrth ddod yn Noddwr Brenhinol i ni," meddai Dr Geoffrey Thomas, Cadeirydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.

"Wrth i'r ddwy siarter hynaf yng Nghymru ddod at ei gilydd, edrycha'r Cyngor ymlaen at gefnogi newid strategol a fydd yn cyflawni er mwyn y genedl."

Ychwanegodd Dr Gerry Lewis, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Fetropolitan Abertawe, eu bod yn falch bod y Tywysog yn Noddwr i'r Brifysgol newydd.

"Gobeithiwn y Brifysgol yn gwneud cyfraniadau mawr i economi a diwylliant Cymru yn y dyfodol," ychwanegodd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol