Llifogydd yn achosi problemau
- Cyhoeddwyd
Bu dau o briffyrdd Sir Benfro ar gau a bu nifer o dai dan ddwr yn dilyn llifogydd fore Llun.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi eu galw i Ddoc Penfro, Freshwater East, Caeriw a Canaston Bridge.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys roedd rhannau o'r A4075 ym Mhenfro a'r A4115 ger Templeton wedi eu cau.
Dywed y gwasanaethau brys eu bod wedi dechrau derbyn galwadau tua 6.30am yn dilyn glaw trwm dros nos.
Glaw trwm
Mae Cyngor Sir Penfro wedi derbyn nifer o alwadau gan bobl yn gofyn am fagiau tywod.
Yn ôl y cyngor mae'r llifogydd yn cilio.
Dywedodd cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Sue Charles, fod cyfanswm o 10mm (tua hanner modfedd) o law wedi ei gyfnodi mewn ychydig oriau mewn gorsaf dywydd ym Mhenbre, ger Llanelli.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol