Gwasanaeth fferi yn dod i ben
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni Stena Line wedi cyhoedd na fydd y gwasanaeth cyflym rhwng Abergwaun ac Iwerddon yn parhau.
Dywedodd y cwmni eu bod wedi gwerthu'r Stena Lynx III oedd yn teithio i Rosslare yn ystod misoedd yr haf.
Fe wnaeth llefarydd gadarnhau y bydd y gwasanaeth fferi yn parhau ddwywaith y dydd.
Mae'r gwasanaeth wedi elwa o waith £1 miliwn ar y fferi yn 2010.
Ym mis Awst cyhoeddodd y cwmni eu bod yn cyfyngu'r gwasanaeth cyflym rhwng Caergybi a Dun Laoghaire.
Bydd y gwasanaeth ond ar gael yn ystod misoedd yr haf.
Rhoddwyd y bai ar gostau tanwydd ac fe fydd yn cael effaith ar 88 o weithwyr.
Mae'r ddwy fferi draddodiadol yn rhedeg drwy'r flwyddyn o Gaergybi.
Fis diwethaf cyhoeddodd Stena gynlluniau i ddatblygu harbwr Abergwaun.
Roedd y cynlluniau yn cynnwys marina gyda 450 o angorfeydd.
Maen nhw hefyd yn gyfrifol am gynlluniau yng Nghaergybi.
Yn gynharach yn y mis daeth cyhoeddiad bod y gwasanaeth rhwng Abertawe a Cork yn dod i ben.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2011
- Cyhoeddwyd30 Awst 2011
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2011