Teyrngedau i bêl-droediwr a fu farw ar Ynys Môn

Tom Wyn Roberts Image copyright Other
Image caption Cafodd Tom Wyn Roberts ei ddisgrifio fel dyn poblogaidd a phêl-droediwr arbennig

Cafodd teyrngedau eu rhoi i bêl-droediwr lleol fu farw yn Llangefni nos Sadwrn.

Yn ôl pobl leol, Tom Wyn Roberts oedd y dyn 22 oed gafodd ei daro gan gar toc wedi hanner nos nos Sadwrn.

Roedd yn cerdded ar hyd Ffordd Glanhwfa a ger lleoliad y ddamwain mae blodau wedi eu gadael i un o aelodau tîm Gaerwen.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi holi pump o ddynion mewn cysylltiad â'r digwyddiad a chafodd dau eu rhyddhau ar fechniaeth tan Y Flwyddyn Newydd.

Mae'r tri arall wedi eu rhyddhau yn ddigyhuddiad.

Dylai unrhyw un welodd y ddamwain neu gar Vauxhall Corsa coch neu arian yn gyrru yn Llangefni yn hwyr nos Sadwrn gysylltu gyda'r heddlu.

'Poblogaidd'

Dywedodd rheolwr tîm Gaerwen, Darren Meredith, fod ei gyfaill yn bêl-droediwr dawnus.

"Roedd yn adnabyddus yn Llangefni, dydi dweud ei fod yn boblogaidd ddim yn ddigon.

"Roedd ganddo synnwyr digrifwch arbennig.

Image copyright BBC news grab
Image caption Blodau ger y safle lle cafodd Tom ei ladd

"Mi sgoriodd goliau yn y tair gêm ddiwethaf i ni, roedd yn gyflym ac yn beryglus o flaen y gôl ac roedd yn hyderus."

Fe sgoriodd unig gôl Gaerwen pan gollon nhw 9-1 yn erbyn Glantraeth ddydd Sadwrn yn eu gêm gynghrair.

"All dim eich paratoi ar gyfer y fath newydd mor fuan ar ôl gweld rhywun mor ifanc yn llawn bywyd," meddai teyrnged Stan Strickland, Ysgrifennydd Clwb Pêl-Droed Glantraeth ar wefan y clwb.

"Roedd Tom wedi treulio cyfnod gyda Glantraeth yn ystod tymor 2008-9 ac roedd nifer o'r tîm presennol yn ffrindiau da gyda fo.

"Mae'n amlwg ei fod yn ddyn ifanc poblogaidd iawn ac rydym yn cydymdeimlo gyda'i deulu, ei ffrindiau a phawb sy'n gysylltiedig gyda chlwb Gaerwen."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.