Cyfarfodydd cyngor ar y we?
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib y bydd pobl Aberystwyth yn gallu gwylio cyfarfodydd y cyngor dref yn fyw ar y we cyn bo hir.
Mae'r cyngor tref yn ystyried y cais.
Dywedodd Clerc Cyngor Tref Aberystwyth, Jim Griffiths, y byddai rhaid i'r cyngor drafod y manteision a'r anfanteision cyn bwrw ymlaen â'r cynllun.
Ym mis Mehefin eleni dywedodd Cyngor Sir Gâr eu bod yn ystyried dangos fideos o'u cyfarfodydd ar wefan.
Dim caniatâd
Roedd y cyngor sir wedi ei feirniadu wedi i flogiwr gael ei arestio am ffilmio un o'u cyfarfodydd.
Ar y pryd dywedodd y cyngor sir nad oedd gan neb ganiatâd i ffilmio cyfarfod oedd yn cael ei gynnal yn y siambr.
Dywedodd Mr Griffiths: "Rydyn ni wedi derbyn awgrym y gallai'r cyngor lansio cynllun peilot i ddangos democratiaeth ar waith.
"Bydd rhaid i gynghorwyr hefyd drafod y gost."
Fe fyddai'r wefan, meddai, yn ddefnyddiol i rai nad oedd yn gallu mynd i'r cyfarfodydd.