Syr Terry yn chwilio am entrepreneuriaid y dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Syr Terry MatthewsFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mae Syr Terry Matthews wedi dweud bod angen helpu graddedigion

Mae'r gwaith yn dechrau o chwilio am raddedigion i fod yn rhan o gynllun arloesol gan y biliwnydd, Syr Terry Matthews.

Mae'r gŵr busnes yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu rhaglen bum mlynedd i helpu graddedigion i ddod yn bobl fusnes llwyddiannus.

Y gobaith yw y bydd y rhaglen entrepreneuriaeth newydd, sydd wedi'i leoli yng Nghasnewydd, yn creu cenhedlaeth newydd o fusnesau technoleg yng Nghymru.

Bydd £5.6 miliwn ar gael ar gyfer y pum mlynedd, gyda thua hanner yr arian yn dod gan Lywodraeth Cymru a'r hanner arall gan gyfranwyr dyngarol.

Ymhlith y rhai sy'n cefnogi'r cynllun mae sefydlwyr cwmni yswiriant Admiral, David a Heather Stevens.

Bydd hanner yr arian yn cael ei ddefnyddio i weinyddu'r cynllun, gyda'r gweddill yn mynd at gefnogi cwmnïau sy'n cael eu creu gan y graddedigion.

Cwmnïau technoleg

Bydd 10 o raddedigion yn cael hyfforddiant dwys ym maes entrepreneuriaeth bob blwyddyn er mwyn datblygu cynnyrch technoleg gwybodaeth, gyda'r pwyslais ar feysydd gwyddoniaeth, cyfrifiaduron, peirianneg a busnes.

Drwy gael eu mentora gan entrepreneuriaid profiadol y nod yw paratoi'r unigolion ar gyfer yr her o sefydlu cwmnïau technoleg.

Mae'r cynllun yn cael ei weinyddu gan Alacrity, sefydliad nad yw'n gwneud elw, ac mae'r cyfnod recriwtio yn dechrau nawr. Gall ymgeiswyr wneud cais trwy wefan y prosiect.

Gall graddedigion o ar draws y DU wneud cais ond bydd angen iddyn nhw fod yng Nghasnewydd am flwyddyn, wedi'u lleoli mewn swyddfa ger glan yr afon, ger y brifysgol.

Bydd disgwyl i'r graddedigion fyw gyda'i gilydd dros y flwyddyn, fel eu bod yn gallu cydweithio a chymharu syniadau yn ystod y cyfnod.

Ar ddiwedd y cwrs, bydd y graddedigion yn gweithio i gwmni fydd yn 25% o'u heiddo nhw, 25% o eiddo Alacrity, gyda chyfalafwyr menter yn berchen ar yr 50% arall.

Y nod yw cael 10 o gwmnïau sydd i gyd wedi'u lleoli yng Nghymru.

'Dim dyfodol'

Yn ôl cefnogwyr y cynllun, yr hyn sy'n gwneud y fenter hon yn wahanol i ymdrechion prifysgolion i annog cwmnïau llwyddiannus yw'r ffaith ei bod yn targedu'n union beth mae busnesau ei eisiau.

Ym mis Mawrth, roedd Syr Terry - perchennog y Celtic Manor, cartref pencampwriaeth Cwpan Ryder 2010 - wedi dweud wrth Aelodau Seneddol fod yn rhaid i raddedigion gael help gan bobl fusnes neu byddai ddim dyfodol gan Gymru.

Dywedodd wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig bod rhaid darganfod ffyrdd o gadw graddedigion gorau Cymru.

"Rhaid iddyn nhw fod mewn busnes, rhaid iddyn nhw fod eisiau bod yn gyfoethog," meddai, " does dim byd yn bod ar fod ychydig yn farus, does dim o'i le ar hynny rhaid i bobl gael uchelgais."

Wrth siarad am y cynllun newydd adeg hynny, dywedodd: "Rwy'n hapus iawn i gydweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru a chefnogwyr eraill Sefydliad Alacrity er mwyn ceisio creu cenhedlaeth newydd o gwmnïau Cymreig ym maes technoleg.

"Bydd Alacrity yn gweithredu rhaglenni datblygu a fydd yn addysgu graddedigion addawol ym maes peirianneg a busnes ynghylch datblygu cwmnïau technoleg llwyddiannus.

Ychwanegodd bod gan raddedigion Cymru "ddoniau lu" a bod y buddsoddiad hwn yn "cynnig cyfle entrepreneuraidd euraidd."

Er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn cydymffurfio â chyfraith Ewrop bydd y partneriaid sy'n cyfrannu at gost y sefydliad yn derbyn yr un gyfran o enillion o gynnyrch y cwmnïau sy'n deillio o'r rhaglen.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol