Deiseb yn galw am achub Becws Gwalia yn Llangefni

Becws Gwalia, Llangefni Image copyright Other
Image caption Mae'r becws poblogaidd wedi cael tri mis i adael y safle ar Stryd y Bont, Llangefni

Mae 3,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i geisio achub becws ar Ynys Môn, sydd wedi bod yn pobi ers dros 100 mlynedd.

Dywedodd Yvonne Roberts, perchennog Becws Gwalia yn Llangefni, wrth BBC Cymru ei bod wedi cael tri mis i adael y safle ar Stryd y Bont yn y dre'.

Yn ôl Ms Roberts, sy'n cyflogi 12 o bobl ar hyn o bryd, all hi ddim fforddio i symud y busnes i leoliad newydd.

Mae perchennog yr adeilad, Gwen Dale Jones, wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater oherwydd "rhesymau cyfreithiol".

Fe gymerodd Ms Roberts yr awenau yn 2008 er mwyn achub 10 o swyddi lleol.

Mae'r becws bellach yn cyflogi 12 o weithwyr, gan gynnwys y prif bobydd sydd wedi bod yn gweithio yno ers 15 mlynedd.

Deiseb

Roedd llythyr, a ddaeth i law Ms Roberts ganol mis diwetha', yn dweud y byddai'n rhaid i'r cwmni adael yr adeilad.

"Yr unig beth mae fy nghyfreithiwr yn gadael i mi ddweud yw fy mod i wedi cael tri mis o rybudd ac rwy'n brwydro i gadw'r becws," meddai Ms Roberts.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Aled Hughes

Yn dilyn y rhybudd i gau, mae cwsmeriaid y becws wedi cael cynnig i arwyddo deiseb i geisio achub y busnes.

Yn ôl un neges ar dudalen Facebook y becws, y bwriad yw troi'r safle'n fflatiau.

Ond doedd y perchennog, Ms Dale Jones, ddim yn fodlon cadarnhau'r rhesymau dros gael rheolaeth yn ôl dros y safle.

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Am resymau cyfreithiol, dydw i ddim mewn sefyllfa i wneud sylw."

Image copyright Other
Image caption Y Becws yn yr un lle nôl tua 1910

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.