Russell Grant wedi gadael Striclty Come Dancing

  • Cyhoeddwyd
Russell GrantFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Russell Grant yn cychwyn ei jive nos Sadwrn yn arena Wembley

Mae'r seryddwr a'r actor Russell Grant wedi gadael cyfres Strictly Come Dancing.

Dros yr wythnosau diwethaf mae'r gŵr sy'n byw ym Maentwrog, Gwynedd, wedi bod yn diddannu cynulleidfa'r gyfres.

Er iddo gael "y cychwyn gorau" i'r ddawns nos Sadwrn yn Arena Wembley, dodd hedfan allan o ganon yn ddigon i'w gadw yn y gyfres.

Roedd 6,000 o bobl yn yr arena ar gfyer gweld jive Grant.

Dyma gynlliedfa fyw mwya'r rhaglen.

Cafodd Grant 24 pwynt gan y pedwar beirnaid ac roedd o a'i bartner Flavia Cacace ar waelod y rhestr.

Y gantores o Awstralia Holly Valance a'i phartner Artem Chigvintstev oedd y cwpl arall i gael y lleiaf o gefnogaeth.

"Mae pob sioe dwi wedi ei wneud wedi bod yn uchafbwynt," meddai Grant wrth adael.

'Pleser'

"Mae hi wedi bod yn wych. Mae'r cyhoedd a'r gynulleidfa wedi bod yn gret.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Bu'r ddau yn hyfforddi yng ngogledd Cymru

"Dwi wedi dysgu gan y beirniaid ac wedi gwrando ar eu sylwadau.

"Ond y peth mwya ydi cael y partner gorau yn Flavia Cacace."

Ychwanegodd y ddawnswraig broffesiynol fod Grant yn ysbrydoliaeth.

"Mae hi wedi bod yn bleser bod yn bartner i ti," meddai.

Bu Grant a Cacace yn ymarfer rhai o'r dawnsfeydd yng ngogledd Cymru rhwng rhaglenni.

Mae'r gyflwynwraig Alex Jones a'i phartner James Jordan a'r pêl-droediwr Robbie Savage a'i bartner Ola Jordan yn dal yn y gystadleuaeth.

Alex Jones oedd yn gydradd gyntaf nos Sadwrn ar ôl gwneud y Tango.

Hefyd gan y BBC