Plac i gofio naw glöwr fu farw yng nglofa Lewis Merthyr

Glowyr yng nglofa Lewis Merthyr, 1947 (Llun: Archif Ddigidol Cyngor Rhondda Cynon Taf) Image copyright Other
Image caption Mae Ivor England, fydd yn darllen yn y gwasanaeth coffa, yn cofio'r sŵn wrth i nwy methan ffrwydro yn y pwll glo

Bydd plac yn cael ei ddadorchuddio i goffáu naw o ddynion a laddwyd mewn damwain pwll glo yn ne Cymru 55 mlynedd yn ôl.

Yn ystod gwasanaeth arbennig ym Mharc Treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod ddydd Mawrth - amgueddfa lofaol ar gyn safle'r pwll - bydd un o'r dynion a oedd yn gweithio yn y lofa ar y pryd yn cyflwyno darlleniad.

Roedd Ivor England, 75 oed, yn gweithio mewn rhan wahanol o lofa Lewis Merthyr ar fore Tachwedd 22 1956, pan ddigwyddodd y ffrwydrad wedi i gerrig syrthio ym mhwll Trefor a thanio nwy oedd wedi casglu mewn twll.

Tra bydd yn meddwl am gydweithwyr a gollwyd y diwrnod hwnnw, mae Ivor yn credu y dylai pawb sy'n rhan o'r diwydiant glofaol oedi i feddwl am ennyd.

Mae Mr England, oedd ar shifft ddydd y diwrnod hwnnw, yn cofio'r rhai oedd newydd orffen y shifft nos yn eu rhybuddio pa mor ddrwg oedd yr amodau ym mhwll Trefor.

To'n dymchwel

Dros yr wythnosau blaenorol roedden nhw wedi dod o hyd i "naid" yn y wythïen 2 droedfedd 9 modfedd (0.84m), ble mae'r glo yn codi'n sydyn, gan greu nam daearyddol.

Gwnaed y penderfyniad i barhau â'r gwaith a cheisio ailuno'r wythïen.

Ond roedd amodau wedi achosi i'r to ddymchwel, gyda cherrig mawr yn disgyn a nwy methan yn cael ei ryddhau.

Image copyright Other
Image caption Roedd 'naid' yn y wythïen lo gyfyng

Roedd y rhan fwya' o'r glowyr wedi cael eu tynnu o'r ardal, ond cafodd un tîm eu hanfon mewn i geisio codi'r to gyda chylchoedd dur.

Pan darodd carreg yn erbyn un o'r cylchoedd dur, fe daniodd, gan achosi ffrwydrad methan.

"Ro'n i'n ddiogel, ond hyd yn oed ym mhwll Bertie, fe glywon ni'r sŵn, tebyg i pan fydd trên tanddaearol yn cyrraedd gorsaf.

"Doedd hi ddim yn anarferol clywed hynny...ond o ystyried beth oedd y shifft nos wedi dweud wrthym am yr amodau yn Nhrefor, roedd gennym deimlad ym mêr ein hesgyrn nad oedd o'n newydd da.

"Cawsom ein gorchymyn i fynd i fyny gan ein rheolwr, ac roedd yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a thimau achub yn cyrraedd."

'Diwerth'

Cafodd dau ddyn eu lladd yn syth, a bu farw saith arall yn yr ysbyty, ond llwyddodd pump o bobl i oroesi'r trychineb.

"Rwy'n cofio teimlo'n hollol ddiwerth," meddai Mr England.

Image copyright Other
Image caption Dywedodd Mr England y bydd yn cofio 'pawb sydd wedi marw mewn pyllau glo' yn ystod y gwasanaeth

"Doedd rhywun ddim yn gallu helpu ond eisiau gwneud, pan oeddech chi'n gweld dynion yn cael eu tynnu o 'na wedi'u llosgi ac yn waed i gyd, ond roedd y timau achub yn dweud wrthym am fynd allan o'r ffordd a gadael pethau i'r arbenigwyr.

"Roedd yn gwneud i chi sylweddoli bod bywyd ar hap.

"Nes i ond ymuno â glofa Lewis Merthyr am eu bod nhw eisiau i mi chwarae trombôn ym mand y pwll glo, ac ar ddiwrnod gwahanol fe allwn i fod wedi bod yn gweithio yn y pwll hwnnw."

Aberthu bywyd

Mae Mr England hefyd yn credu ei bod yn addas i'r plac gael ei ddadorchuddio yn y parc sydd nawr yn coffáu gorffennol diwydiannol y Rhondda.

"Wrth gwrs fe fydda' i'n meddwl am y dynion oeddwn i'n eu 'nabod, ond mae o'n fwy na dim ond Lewis Merthyr," meddai.

"Mae rhyw 4,000 neu 5,000 o bobl wedi aberthu'u bywydau oherwydd glo yng Nghymru, ac er mai'r trychinebau mawr mae pobl yn tueddu i'w cofio, mae'r rhan fwya' wedi marw mewn damweiniau llai nad oes neb yn eu cofio.

"Felly pan fyddwn ni'n cynnal munud o dawelwch, fe fydda' i'n cofio am bawb sydd wedi marw yn sgil damweiniau mewn pyllau glo."

Straeon perthnasol