Clywedog: Pennu dyddiad achos llys
- Cyhoeddwyd

Bydd dyn sydd wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ar ôl i bedwar o bobl foddi mewn llyn ger Llanidloes yn ymddangos gerbron Llys y Goron ym mis Rhagfyr.
Mae Gordon Dyche, 24 oed o ardal Llanbrynmair, yn wynebu pedwar cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Bu farw pedwar o bobl, Emyr Glyn Griffith, 66 oed; Phyllis Iris Hooper, 84 oed; Peter Bricome, 14 oed a Liam Govier, 14 oed, ar ôl i'r car yr oedden nhw'n teithio ynddo blymio i Lyn Clywedog ym mis Ebrill.
Roedden nhw'n dod o ardal Pontypridd ac wedi bod ar wyliau dros y Pasg yn ardal Machynlleth.
Denise Griffith, 55 oed, oedd yn gyrru car Peugeot 807 y teulu.
Fe lwyddodd hi i nofio i'r lan a galw'r gwasanaethau brys.
Methodd y gwasanaethau brys ag achub ei gŵr, ei mam a'i dau fab maeth.
Dydd Mawrth ymddangosodd Mr Dyche gerbron ynadon Y Trallwng.
Penderfynodd yr ynadon ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod tan iddo ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ar Ragfyr 2.