Rhybudd i chwaraewyr rygbi 'alltud' Cymru

  • Cyhoeddwyd
Mike Phillips, James Hook, Lee ByrneFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae Mike Phillips, James Hook a Lee Byrne yn chwarae yn Ffrainc

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi rhybuddio chwaraewyr sy'n chwarae i dimau y tu allan i Gymru bod posibilrwydd y gallan nhw gael eu gadael allan o gynlluniau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Yn ddelfrydol, byddai Gatland yn dymuno cael y chwaraewyr 13 niwrnod cyn eu gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon ar Chwefror 5, 2012.

Erbyn hyn mae Mike Phillips, James Hook, Lee Byrne, Craig Mitchell ac Andy Powell yn chwarae yn Ffrainc neu yn Lloegr.

Mae eu clybiau nhw'n chwarae'r penwythnos cyn gêm gynta' Cymru.

"Os na allan nhw (y chwaraewyr sydd ddim yng Nghymru) gael eu rhyddhau yn llawn am y bencampwriaeth, fyddan nhw ddim yn cael eu dewis o gwbl," meddai Gatland.

Dydi'r pump ddim ar gael ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Awstralia ar Ragfyr 3.

'Siomedig'

Mae rhanbarthau Cymru wedi dod i gytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru y bydd y chwaraewyr ar gael ar gyfer y tîm cenedlaethol, gan gynnwys bron i bythefnos o baratoi ar gyfer yr holl bencampwriaethau, y Chwe Gwlad, gemau'r hydref a theithiau.

Yn wahanol i glybiau Cymreig, does 'na ddim rheidrwydd ar glybiau y tu allan i Gymru i ryddhau eu chwaraewyr cymaint ymlaen llaw.

Mae Gatland yn cydnabod bod 'na "un neu ddau" o chwaraewyr nad oedd rhanbarthau Cymru eu heisiau cyn iddyn nhw arwyddo i dimau Lloegr neu Ffrainc.

Fe fydd yn ystyried hyn wrth ddewis ei garfan.

Mae'n synnu na wnaeth y chwaraewyr sicrhau y byddan nhw ar gael ar gyfer dyletswyddau rhyngwladol wrth arwyddo cytundeb.

"Dwi'n siomedig na wnaeth un neu ddau ohonyn nhw gael cytundeb ysgrifenedig, dim ond yn llafar," meddai Gatland.

"Rydym yn ceisio bod yn gyson.

"Mae'n gyfle gwych i rai o'r ieuenctid sydd wedi creu dipyn o argraff.

"Ond mae 'na rybudd, os ydach chi'n ystyried gadael Cymru, gwnewch yn siŵr bod y cytundeb yn caniatáu i chi gael eich rhyddhau ar gyfer holl gemau ac ymarferon hyfforddi Cymru.

"Os na fydd hyn yn digwydd, mae'n bosib na fyddwch yn cael ei dewis, sy'n bryder i'r rhai ohonon ni sydd eisiau symud ymlaen."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol