Gwylwyr y Glannau: Gorsaf Abertawe i gau
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau y bydd gorsaf Gwylwyr y Glannau yn Abertawe yn cau.
Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Philip Hammond, wedi dweud wrth Aelodau Seneddol yn San Steffan y bydd yr orsaf yn Y Mwmbwls sy'n cyflogi 28 yn cau erbyn 2015.
Ychwanegodd y bydd gorsafoedd Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi ac Aberdaugleddau yn aros ar agor.
Dywedodd Mr Penning y byddai adeilad Gwylwyr y Glannau yn Y Mwmbwls yn cael ei ddefnyddio gan dimau achub gwirfoddol.
Ychwanegodd mai un o'r rhesymau am gau'r orsaf yn Abertawe oedd oherwydd bod yr Adran Drafnidiaeth eisoes yn cyflogi nifer o bobl yn y ddinas.
Roedd y cynllun gwreiddiol yn argymell cau gorsafoedd Caergybi ac Aberdaugleddau ac yn dweud y byddai Abertawe ar agor yn ystod oriau'r dydd.
Trefnwyd cyfres o ddeisebau a phrotestiadau yn y de a'r gogledd yn erbyn y cynllun ac fe ddywedodd pwyllgor o aelodau seneddol y dylid ailystyried y cynllun.
Straeon perthnasol
- 28 Mehefin 2011
- 23 Mehefin 2011
- 19 Mai 2011