E.coli: Dau fabi wedi marw
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad bod dau fabi wedi marw ar ôl cael eu heintio â math o E.coli.
Mae profion wedi dangos bod un o'r babanod wedi dal yr haint ESBL E.coli yn Uned Famolaeth Ysbyty Singleton, Abertawe, a'r babi arall wedi ei heintio yn y gymuned.
Roedd y babi fu farw yn yr ysbyty wedi ei eni'n gynnar. Mae'r crwner yn ymchwilio i union achos ei farwolaeth.
Mae BBC Cymru'n deall bod un o'r ddau, Hope Erin Evans, wedi ei geni ar Hydref 31 a'i bod hi wedi marw ar Dachwedd 4.
Credir bod un baban ac un o'r mamau wedi eu heintio yn yr ysbyty.
Mae'r awdurdodau wedi cadarnhau fod tri achos arall a bod cysylltiad rhwng y rhain - ond nad oeddynt wedi eu geni yn yr ysbyty.
i
Profion
Wrth sôn am y babi fu farw yn Ysbyty Singleton, dywedodd Dr Bruce Ferguson, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: "Yn drist iawn, roedd yn fabi oedd wedi'i eni'n gynnar iawn ac, er gwaetha' ymdrechion gorau'r staff, bu farw'n ddiweddarach ... Mae'r farwolaeth wedi tristáu pawb yn yr uned."
Mam i fabi oedd yr ail achos o ESBL E.coli ddaeth i'r amlwg yn yr ysbyty. Dyw hi ddim wedi dangos unrhyw symptomau a dyw hi ddim wedi gorfod cael triniaeth.
Dyw profion ddim eto wedi cadarnhau iddi ddal yr haint yn yr ysbyty ond mae arwyddion mae dyna oedd yr achos.
Pwysleisiodd yr ysbyty bod y ddau achos wedi'u cyfyngu i'r ysbyty a bod dim tystiolaeth fod yr haint wedi lledu.
Genedigaethau
Mae profion wedi'u cynnal ar gleifion, offer a gwahanol rannau'r uned famolaeth a does dim prawf o ESBL E.coli wedi ei ganfod.
Er hyn, mae'r ysbyty wedi glanhau'r theatrau a'r wardiau babanod ac wedi cyfyngu'r nifer sy'n cael dod mewn i'r uned i fabanod sydd dros 36 wythnos.
Mae'r ysbyty yn gobeithio gallu codi'r cyfyngiadau yma'n fuan.
Dywedodd Dr Ferguson: "Yn y cyfamser, mae babanod sydd wedi cyrraedd y cyfnod llawn o 40 wythnos yn dal i gael eu geni yn ôl yr ymarfer yn Uned Famolaeth Ysbyty Singleton.
"Byddem yn hoffi sicrhau mamau sy'n disgwyl rhoi genedigaeth yn yr ysbyty fod yr uned famolaeth yn agored fel arfer ar gyfer genedigaethau sydd 40 wythnos neu drosodd.
Bregus
"Ond dylai unrhyw un â phryderon neu gwestiynau gysylltu â'u bydwraig neu ffonio llinell gymorth yr ysbyty ar 07747615627."
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ei bod yn bwysig nodi bod ESBL E.coli yn wahanol i E.coli 0157, sy'n achosi gwenwyn bwyd.
Dyw ESBL E.coli ddim yn achosi problemau i'r rhan fwyaf o bobl ond mae'n gallu arwain at heintiau difrifol iawn mewn unigolion bregus.
Doedd y bwrdd iechyd ddim yn fodlon cadarnhau manylion pellach ynglŷn â'r achosion oherwydd cyfrinachedd cleifion.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar, ei fod yn cydymdeimlo â'r teuluoedd.
'Yn ddifrifol iawn'
"Yn amlwg, mae'r achos hwn yn ddifrifol iawn ac rwy'n annog y Gweinidog Iechyd i roi'r wybodaeth ddiweddara am y sefyllfa a sôn am y camau nesa.
"Er bod yr heintiau, mae'n ymddangos, wedi eu hynysu, fe fydd y rhai sy'n mynd i'r ysbyty'n disgwyl sicrwydd cyson oddi wrth Lywodraeth Cymru."
Mae'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi dweud: "Mae marwolaethau'r ddau fabi wedi fy nhristáu ac rwy'n cydymdeimlo â'r teuluoedd.
"Dwi'n gwybod bod y bwrdd iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru'n yn ymchwilio er mwyn rheoli'r gyfres o achosion ac mae mesurau rheoli mwy llym mewn grym."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2011