Estyn Ardal Harddwch Naturiol
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd Ardal Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd yn cael ei hestyn.
Bydd yr ardal yn cynnwys 230 cilometr sgwâr yn siroedd Dinbych a Wrecsam.
Gwnaed y cyhoeddiad gan John Griffiths, y Gweinidog Amgylcheddol, ddydd Mawrth.
Hon yw'r Ardal Harddwch Naturiol gyntaf yng Nghymru ers 26 blynedd ac fe fydd yn cynnwys Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy.
Roedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cynghorau Sir Ddinbych a Wrecsam ynghyd â nifer o fusnesau a mudiadau gwirfoddol o blaid y cynllun.
Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru eu bod yn siomedig gyda'r cyhoeddiad.
Mae'r Undeb yn credu y bydd rheolau cynllunio yn fwy llym yn yr ardal, gan wneud gwaith ffermwyr yn anoddach.
Ffynhonnell y llun, Other
Yr olygfa o Foel Famau - safle uchaf Bryniau Clwyd
Straeon perthnasol
- 14 Mawrth 2011
- 14 Chwefror 2011
- 14 Hydref 2010
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol