Pryder am newidiadau i feiciau cwad
- Cyhoeddwyd

Mae'r undebau amaethyddol yn poeni y bydd newidiadau mewn beiciau cwad yn eu gwneud yn fwy peryglus i bobl sy'n gweithio ar y tir.
Yn ôl argymhellion yr Undeb Ewropeaidd mae'n bosib y bydd yn rhaid newid y beiciau er mwyn eu gwneud yn ddiogel ar gyfer y ffordd fawr.
Ond yn ôl yr undebau fe allai'r newidiadau olygu nad yw'r beiciau yn ddiogel ar lethrau, a'u bod hefyd yn fwy drud i'w prynu.
Mae Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud y dylid gwahaniaethu rhwng beiciau sy'n cael eu defnyddio gan amaethwyr a beiciau ar gyfer dibenion hamdden.
'Llai sefydlog'
Dywed yr undebau fod beiciau cwad yn cael eu defnyddio gan nifer fawr o ffermwyr ar gyfer bwydo anifeiliaid a chadw golwg ar stoc.
Yn ôl yr NFU mae'r newidiadau yn golygu codi uchder y beiciau, gan eu gwneud yn llai sefydlog ar lethrau.
Dywedodd Eifion Davies, cadeirydd Meirionnydd o'r NFU: "Mae diogelwch yn flaenoriaeth i bobl sy'n gweithio yn y diwydiant amaeth, ond rydym o'r farn bod y cynigion yma.....yn codi uchder y beiciau ac yn eu gwneud yn llai diogel ar lethrau."
"Mewn gwirionedd byddant yn llai defnyddiol ar gyfer dibenion amaethyddol."
Dywedodd fod yr undeb hefyd o'r farn y byddai'r newidiadau dan sylw yn golygu cynnydd o 50% yn y gost o gynhyrchu'r peiriannu.
Yn ôl Gareth Vaughan, cyn lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, byddai'r newidiadau yn golygu fod y beiciau yn anniogel.
Mae cynlluniau hefyd yn golygu injan gyda llai o bŵer.
Dywedodd Mr Vaughan fod amaethwyr angen y pŵer ychwanegol ar gyfer cludo trelar.
Pryder
Dywed y Gweithgor Iechyd a Diogelwch fod dau o bobl yn cael eu lladd bob blwyddyn o ganlyniad i ddamweiniau gyda beiciau o'r fath.
Does yr un damwain angheuol wedi bod yng Nghymru am dair blynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Ewropeaidd: "Mae yna bryder ynglŷn â diogelwch gyda beiciau cwad sy'n cael eu defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus.
"Mae nifer o ddinasoedd yn yr Undeb Ewropeaidd wedi gwahardd y beiciau."
Dywedodd y byddai'n anodd gwahaniaethau rhwng peiriannau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hamddena a rhai sy'n cael eu defnyddio ar gyfer diwydiant.
"Fe allai dehongliad rhywun o fusnes neu ddiwydiant fod yn un eang," meddai llefarydd.
Mae disgwyl i bwyllgor amaeth y Senedd Ewropeaidd bleidleisio ar y cynigion ar Ragfyr 5. Mae disgwyl pleidlais o'r senedd lawn rhywbryd y flwyddyn nesa.
Straeon perthnasol
- 25 Ionawr 2010
- 2 Tachwedd 2011
- 14 Chwefror 2011