Wrecsam 2-1 Caergrawnt
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi cyrraedd ail rownd Cwpan FA Lloegr ar ôl curo Caergrawnt 2-1 ar y Cae Ras.
Bydd y Dreigiau nawr yn wynebu taith i Brentford o'r Adran Gyntaf ar Ragfyr 3.
Roedd y ddau dîm yn weddol gyfartal yn yr hanner cynta ond fe lwyddodd Mathias Pogba i roi Wrecsam ar y blaen ar ôl 59 munud yn dilyn croesiad gan Curtis Obeng.
Danny Wright sgoriodd yr ail (76 munud) gyda'i ben, a hynny yn erbyn ei hen glwb.
Unwaith eto Obeng oedd yn gyfrifol am y croesiad.
Fel yn y rownd gyntaf fe sgoriodd Caergrawnt yn hwyr yn y gêm.
Ond doedd peniad Michael Wylde ar ôl 87 munud ddim yn ddigon wrth i amddiffyn Wrecsam ddal yn gadarn am y munudau olaf.
Wrecsam: Mayebi,Obeng, Ashton, Creighton, Harris, Tolley (Fowler 69), Knight-Percival, Clarke, Wright, Morrell (Speight 60), Pogba .
Torf: 2,606