Cleverly: Trafodaethau am ornest i uno'r bencampwriaeth

Nathan Cleverly Image copyright Getty Images
Image caption Gallai pencampwr WBO y byd, Nathan Cleverly, wynebu'r pencampwr WBA Beibut Shumenov

Mae gornest i uno pencampwriaethau is-drwm y byd rhwng Nathan Cleverly a Beibut Shumenov yn 2012 gam yn agosach.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod trafodaethau cychwynnol wedi dechrau rhwng timau pencampwyr y WBO a'r WBA.

Dyhead Cleverly yw cynnal yr ornest yng Nghymru, ond mae'n fodlon teithio i gartref presennol Shumenov yn Las Vegas.

Dywedodd Cleverly, 24 oed: "Beibut Shumenov, pencampwr y WBA, yw'r nesaf i mi.

"P'run ai fydd hynny yng Nghymru neu Las Vegas, dydyn ni ddim yn gwybod eto, ond lle bynnag fydd yr ornest dwi'n edrych ymlaen yn fawr at honna."

Mae Shumenov wedi amddiffyn ei goron WBA deirgwaith, ac mae'r bocsiwr 28 o Kazakstan yn wreiddiol yn awyddus i uno'r pencampwriaethau - felly hefyd Cleverly.

Gallai sialens arall ddod gan bencampwr yr IBF yn y categori 175 pwys, Tavoris Cloud.

Dywedodd Shumenov: "Fe ddywedais i wrth Jean Pascal o Ganada y dylai'r ornest gael ei chynnal ym mhrifddinas bocsio'r byd yn Las Vegas. Mae'r un peth yn wir am Cleverl

Nid yw Cleverly wedi diystyru ail ornest yn erbyn Tony Bellew wedi iddo guro'r bocsiwr o Lerpwl ar bwyntiau ym mis Hydref.

Pwy bynnag fydd ei wrthwynebydd, dywedodd Cleverly ei fod yn ysu i ymladd o flaen ei gefnogwyr cartref yng Nghymru am y tro cyntaf ers iddo guro Joey Vegas ym mis Tachwedd 2007.

Dywedodd: "Fe fyddai'n well gen i ddod adref i Gymru - mae hi wedi bod yn amser hir iawn.

"Mae mwyafrif fy ngornestau wedi bod ar draws y lle, ond dyna freuddwyd arall i mi yw cael dod i Gymru fel pencampwr byd ac amddiffyn fy nghoron yma.

"Dyna fyddai'r dewis cyntaf i mi. Ar y llaw arall os oes rhaid teithio i Las Vegas, dyna fel y bydd hi. Fe awn ni allan yno i 'neud y busnes."

Enw arall posib sydd wedi cael ei grybwyll fel gwrthwynebydd i Cleverly yw'r Cymro Enzo Macarinelli - cyn bencampwr godrwm y WBO ers iddo yntau benderfynu symud i lawr i'r pwysau is-drwm."

Straeon perthnasol